Meddyg yn derbyn gwybodaeth drwy gyfrwng tele-feddygaeth
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi mewn offer arbennig i wella mynediad at driniaeth arbenigol i gleifion sy'n diodde' strôc ar draws Cymru. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart y bydd £350,000 yn talu am offer tele-feddygaeth fel y gall meddygon wneud diagnosis o strôc ble bynnag y mae'r claf yng Nghymru. Bydd hyn yn eu galluogi i roi triniaeth 'thrombolysis' i'r claf yn syth ar ôl gweld canlyniadau archwiliad CT o'r claf. Thrombolysis yw'r dull o chwalu ceuladau gwaed trwy ddefnyddio cyffuriau arbennig.
 |
YR OFFER YNG NGHYMRU
2 yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
2 yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
3 yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
1 yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
2 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf
3 yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda
|
Gall hyn leihau cymhlethdodau hir dymor i'r claf. Ond mae'n rhaid derbyn y driniaeth o fewn cyfnod o dair awr. Fe fydd yr offer newydd o gymorth i ymgynghorwyr gan nad yw pob claf sy'n diodde' strôc yn mynd i gael budd o driniaeth thrombolysis. Bydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno'r raddol ar draws Cymru, gyda phob ardal yn cael eu cysylltu i rota o ymgynghorwyr ar gyfer diagnosis a thriniaeth. 'Gwella'n gynt' Dywedodd Mrs Hart: "Gall strôc gael effaith ddinistriol ar unigolion a'u teuluoedd, ond fe fydd y buddsoddiad hwn yn lleihau'r angen i gleifion deithio i dderbyn y driniaeth orau. "Trwy gyflymu mynediad i'r cyffuriau sy'n chwalu ceuladau ymhob rhan o Gymru, gallwn leihau sgil effeithiau strôc, gan alluogi cleifion i wella'n gynt a gwella'u safon bywyd." Dr Anne Freeman sy'n arwain gwasanaeth strôc Llywodraeth y Cynulliad. Dywedodd: "Bydd hyn yn cefnogi asesiad clinigol cleifion, gan gynnwys darparu thrombolysis ac elfennau eraill o ofal strôc mewn argyfwng. "Bydd hefyd yn sicrhau fod ardaloedd gwledig Cymru yn elwa, gan alluogi Datblygiad Strôc Cymru i gymryd cam arall tuag at fod yn wasanaethau o safon fyd-eang."
|