British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2010, 09:58 GMT
Cyfnod arbennig i swyddfa bost Bethlehem

Rhydian (Joseph), Elinor (Mary) gyda'r Tri Gwyr Doeth, Elis, Ifan a Iestyn
Rhai o blant Llangadog ym Methlehem

Mae Swyddfa Bost yng nghefn gwlad Cymru yn ymestyn ei horiau er mwyn ymdopi â nifer yr ymwelwyr dros gyfnod y Nadolig.

Ar hyn o bryd mae swyddfa Bethlehem ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin yn agor un prynhawn bob wythnos.

Ond o Ragfyr 6, bydd y safle ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm a dydd Sadwrn (10am - 12 ganol dydd).

Mae pobl yn dod gyda'u llythyrau a'u cardiau er mwyn cael enw'r pentref ar y stamp.

Bydd y gwasanaeth estynedig yn para tan Ragfyr 21.

Cymeriadau cartŵn

Dywedodd Mike Williams yr is-bostfeistr fod hwn yn "gyfnod arbennig o brysur i'r swyddfa".

"Mae pobl yn dod yma er mwyn cael y stamp Bethlehem," meddai.

"Dros y blynyddoedd rydym wedi cael ymwelwyr o Awstralia ac America, ac mae pobl hefyd yn dod o bob rhan o Gymru."

Bydd modd cael y stamp Bethlehem ar lythyrau tan Ragfyr 20.

Eleni dywed y Post Brenhinol eu bod yn cynnig dau stamp newydd ar gyfer yr Ŵyl, Y Forwyn Fair a'i phlentyn, a Wallace and Gromit.

I gyd-fynd a'r cymeriadau cartŵn, bu beic modur a cherbyd ochr yn ymweld â'r pentref ddydd Gwener.

Yng ngofal y cerbyd oedd Howard Hitchman o glwb beiciau modur Caerfyrddin.

"Roedd e'n ddiwrnod pleserus iawn, roedd fy mrawd yn arfer stampio'r llythyrau ym Methlehem," meddai.

Dywed y Post Brenhinol y bydd 50 miliwn o eitemau yn cael eu dosbarthu gan y post dros y pedair wythnos nesa'.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific