British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010, 20:05 GMT
Achos 1988: Rhyddhau dau ar fechniaeth

Philip Saunders
Bu farw Philip Saunders yn 1987 ddiwrnodau wedi ymosodiad arno y tu allan i'w gartre'.

Mae dau berson gafodd eu harestio ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn achos llofruddiaeth yn 1988 wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Treuliodd Michael O'Brien a dau ddyn arall 11 mlynedd yn y carchar tan iddyn nhw gael eu rhyddhau a'u barnu'n ddieuog o ladd Philip Saunders yng Nghaerdydd.

Mae Mr O'Brien yn honni fod tystiolaeth yn ei erbyn wedi cael ei ffugio gan yr heddlu yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol.

Cafodd dyn 44 oed a menyw 42 oed a arestiwyd ddydd Mercher eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Yn dilyn ymosodiad ar Philip Saunders, oedd yn rhedeg siop bapur newydd yng ngorsaf bysus Caerdydd, y tu allan i'r gartre' yn Nhreganna yn Hydref 1987, bu farw yn yr ysbyty ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Cafodd Mr O'Brien, ynghyd a Darren Hall ac Ellis Sherwood eu dedfrydu i garchar am oes yn 1988 am y llofruddiaeth.

Cafodd y tri eu rhyddhau yn 1999 wedi i'r Llys Apêl wyrdroi'r rheithfarnau.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn goruchwylio ymchwiliad i dri chwyn gan Mr O'Brien.



HEFYD
Llofruddio: Arestio dau
01 Rhag 10 |  Newyddion
Ymchwiliad i achos O'Brien
13 Hyd 10 |  Newyddion
Iawndal: Dau yn colli apl
13 Tach 08 |  Newyddion
Lladd Caerdydd: Ymchwiliad newydd
02 Hyd 03 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific