British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010, 17:02 GMT
Cais arall i fod yn ddinas

Stryd Fawr Wrecsam, Llun Leslie Platt
Cais: Y pedwerydd tro

Mae Wrecsam yn gwneud cais arall i dod yn ddinas.

Bydd un o drefi Prydain yn cael ei dyrchafu'n ddinas adeg Jiwbili Diemwnt y Frenhines yn 2012.

Hwn fydd y pedwerydd tro i Wrecsam, tref fwyaf y gogledd, wneud cais i fod yn ddinas.

Y tro olaf i'r dref wneud cais oedd yn 2002 pan enilodd Casnewydd.

Dywedodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y dylid cydnabod Wrecsam yn ddinas.

"Mae'r dref eisoes yn cael ei hystyried yn brifddinas y gogledd.

"Hefyd mae'n siŵr ei bod yn ffefryn i gael statws gan ei bod yn ganolfan addysgiadol a diwydiannol."

O'r pum dinas yng Nghymru mae pedair yn y de, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Thyddewi.

'Agor drysau'

Bangor yw'r unig un yn y gogledd.

Dywedodd AC Dwyrain Casnewydd, John Griffiths, fod statws dinesig wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Gasnewydd.

"Er enghraifft, mae rhai datblygwyr a manwerthwyr dim ond yn ystyried lleoli eu busnes mewn dinas felly mae'r statws yn agor drysau."

Fe fydd rhaid i gynghorau enwebu enwau erbyn mis Mehefin.

Yna bydd Llywodraeth San Steffan yn eu hystyried ac yn cyflwyno argymhellion i'r Frenhines.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yn 2012.



HEFYD
Hain yn cefnogi statws dinas
13 Ion 10 |  Newyddion
Dim dinas newydd i Gymru
18 Rhag 00 |  Newyddion
Casnewydd yn ennill ras i fod yn ddinas
14 Maw 02 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific