British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010, 10:28 GMT
Cynnydd yn nifer y rhai ifanc sy'n ddiwaith

Person ifanc
Yr adroddiad yn dweud fod cynnydd ymhlith diwethdra hir dymor

Mae diweithdra hir dymor ymhlith pobl ifanc wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 12 mlynedd, yn ôl adroddiad.

Dywed Ymddiriedolaeth y Tywysog bod y dirwasgiad wedi gweld cynnydd o 500% ymhlith pobl rhwng 16 a 24 oed sy'n hawlio budd-dal chwilio am waith.

Yn ôl yr adroddiad mae hynny'n golygu fod pobl ifanc ar eu colled o £8 miliwn bob wythnos, drwy beidio â chael incwm cyflog.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod taclo diweithdra a hyfforddiant i'r ifanc yn un o'u blaenoriaethau.

Dywed yr adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth, sy'n rhoi cefnogaeth ariannol ac ymarferol i bobl ifanc, fod 2,015 o bobl rhwng 16 a 24 oed wedi bod yn hawlio budd-dal am 12 mis yn 2010.

Yn 2008 y ffigwr oedd 430.

Ergyd

Dywedodd Rick Libbey o Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru, fod hyn yn ergyd i unigolion ac i gymunedau.

"Bod diwrnod rydym yn cwrdd â pherson ifanc arall sy'n wynebu diweithdra a thlodi.

"Gyda'r gefnogaeth gywir, fe allai'r bobl ifanc dorri'r cylch dieflig a dechrau byw eu bywydau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Er gwaetha setliad heriol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddi sgiliau a rhoi cyfle i bobl ifanc.

"Yn ein cyllideb drafft cyhoeddwyd y byddwn yn amddiffyn ein hysgolion a sgiliau. Byddwn hefyd yn parhau a chyfundrefn cefnogi Lwfansau Addysg yng Nghymru."



HEFYD
Angen help ar hawlwyr budd-dal
02 Rhag 10 |  Newyddion
'Hanner y di-waith o dan 25 oed'
03 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific