British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010, 07:25 GMT
Angen help ar hawlwyr budd-dal

Chwilio am waith
Dywed yr ymchwil fod angen teilwra'r cymorth

Mae ymchwil yn dangos bod angen gwneud mwy i helpu'r rhai sy'n hawlio budd-dal analluogrwydd i fynd yn ôl i'r gwaith.

Er bod y nifer sy'n hawlio'r budd-dal wedi lleihau o bron 33% ers 10 mlynedd, mae'r nifer yn dal yn uchel ym Merthyr Tudful a chymoedd cyfagos, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Morgannwg.

Comisiynwyd yr ymchwil gan Aelod Seneddol Merthyr, Dai Havard, er mwyn ceisio deall y system yn well a dod o hyd i welliannau.

Bu'r tîm ymchwilio yn holi rhai sy'n hawlio'r budd-dal, asiantaethau cefnogol, cyflogwyr ac asiantaethau cyflogi a staff iechyd proffesiynol.

'Dull gwahanol'

Mae'r ymchwil yn dangos bod angen teilwra dulliau gweithredu fesul rhanbarth cyn y bydd canlyniadau gwell.

Dywedodd yr Athro Dave Adamson o Brifysgol Morgannwg, arweinydd yr ymchwil: "Rydym wedi sylweddoli bod un dull wrth ddelio â'r broblem ddim yn gweithio. Mae angen dulliau gwahanol ...

"Mae'r rhan fwya o bobl am fynd yn ôl i'r gwaith.

"Ond dyw'r system bresennol ddim yn gweithio iddyn nhw.

"Mae angen i asiantaethau ystyried iechyd corfforol a meddyliol y rhai sy'n hawlio budd-dal, eu sgiliau sylfaenol, hyder, parodrwydd i weithio, mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a mynediad i leoedd i weithio."

'Pecyn'

Dywedodd Mr Havard: "Mae'r gymdeithas gyfan yn elwa wrth ymateb gyda'i gilydd i greu cymunedau iach gyda sgiliau sy'n weithgar yn economaidd.

"Mae llawer o fân siarad am y di-waith ym Merthyr Tudful a'r cymoedd.

"Mae'r ymchwilwyr wedi siarad â nhw ac mae'r ymchwil yn codi nifer o gwestiynau pwysig.

"Mae'r ymchwil yn dangos bod angen pecyn o fesurau er mwyn helpu unigolyn i fynd yn ôl i weithio.

"Er mwyn i system felly weithio, mae'n hanfodol bod pob asiantaeth sy'n rhan o'r broses yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth arbenigol i unigolion pan fydd angen hynny."



HEFYD
31,000 yn llai o swyddi
17 Tach 10 |  Newyddion
'Anogaeth nid gorfodaeth yw'r ateb'
07 Tach 10 |  Newyddion
Toriadau: Ergyd i bobl anabl
18 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific