British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010, 18:52 GMT
Biliau nwy i godi 9.4%

Rheolydd gwres canolog
Mae pryder bod pobl yn troi'r gwres i lawr i arbed arian

Fe fydd biliau nwy cwsmeriaid cwmni Swalec yn codi 9.4% ar gyfartaledd o ddydd Mercher nesaf ymlaen.

Cyhoeddodd Nwy Prydain eisoes y bydd eu biliau nhw hefyd yn codi 7% ymhen deng niwrnod.

Mae prisiau ynni bellach yn uwch nag y buon nhw ers dwy flynedd.

Fis diwethaf, awgrymodd arolwg bod 54% o bobl yng Nghymru yn poeni am dalu eu biliau nwy a thrydan dros y gaeaf ac yn ceisio lleihau eu gwariant drwy ddefnyddio ynni yn fwy gofalus.

Yn ôl y gwaith ymchwil ar ran Llais Defnyddwyr Cymru, mae 75% o bobl â salwch hirdymor neu anabledd a 62% o'r rhai sy'n 65 oed a throsodd, yn poeni am dalu eu biliau ynni yn ystod y gaeaf.

Strategaeth

Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi strategaeth newydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Yn ogystal ag amlinellu sut i ddod â rhai o gymunedau lleiaf breintiedig Cymru allan o dlodi tanwydd, mae'r strategaeth yn anelu at dargedau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae "tlodi tanwydd" yn cael ei ddiffinio fel cartref sy'n gwario mwy na 10% o incwm y tŷ (gan gynnwys budd-dal tai) ar danwydd i gynhesu'r tŷ yn ddigonol.



HEFYD
Diddymu tlodi tanwydd yw'r nod
23 Gorff 10 |  Newyddion
Tlodi tanwydd: Rhybudd elusennau
20 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific