British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010, 12:00 GMT
Arestio dau mewn perthynas llofruddiaeth 1987

Phillip Saunders
Bu farw bum diwrnod ar l bod yn yr ysbyty

Mae'r heddlu wedi arestio dau berson mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn yn 1987.

Fe gafodd dyn 44 oed a dynes 42 oed eu harestio ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw mewn achos llys ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r honiadau'n ymwneud ag achos llys llofruddiaeth Phillip Saunders yn 1988.

Cafodd y ddau eu harestio yng Nghaerdydd ac maen nhw'n cael eu holi mewn gorsafoedd yn y ddinas.

Cafodd Mr Saunders, perchennog stondin bapur newydd yng nghanol Caerdydd, ei daro ar ei ben wrth iddo fynd adref o'i waith.

Pum diwrnod

Cafwyd hyd i'r dyn 52 oed yn anymwybodol ger ei gartref yn Nhreganna ac roedd enillion y diwrnod hwnnw wedi eu dwyn.

Aed ag e i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw bum diwrnod yn ddiweddarach.

Yn 1998 cafwyd Michael O'Brien, Ellis Sherwood a Darren Hall yn euog o lofruddio Mr Saunders.

Cawson nhw eu rhyddhau o'r ddalfa ar fechnïaeth yn 1998.

Flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd barnwyr y Llys Apêl fod yr euogfarnau gwreiddiol yn anniogel.

Yn 2003 dechreuodd yr heddlu ymchwiliad newydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific