British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010, 11:54 GMT
Goleuadau: 'Ddim yn bachu cyfle'

Aberteifi
Ni fydd goleuadau Nadolig ar y Stryd Fawr eleni

Fydd yna ddim goleuadau Nadolig yn Stryd Fawr Aberteifi eleni oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Roedd y Siambr Fasnach wedi prynu goleuadau newydd ar gost o £20,000 a busnesau lleol wedi casglu arain ar gyfer 200 o oleuadau.

Ond y broblem yw nad yw'r bachau gafodd eu defnyddio o'r blaen yn ddigon cryf ar gyfer y goleuadau newydd.

Felly penderfynodd y Siambr Fasnach nad oedd modd eu gosod eleni.

'Trueni'

Dywedodd Geraint James o siop Awen Teifi: "Mae'n drueni na chafodd rhywbeth ei wneud i gyflwr y bachau.

"Ond dyna ni, allwn ni ddim troi'r cloc yn ôl ac mae'n rhaid edrych ymlaen."

Dywedodd Neil Jones, is-gadeirydd Siambr Fasnach Aberteifi, y bydd y goleuadau ar gael ar gyfer y flwyddyn nesa ac y bydd bachau newydd wedi eu gosod ar gyfer Nadolig 2011.

Eleni, meddai, fe fydd coeden fawr a goleuadau y tu allan i Neuadd y Dref.

Ychwanegodd: "Mae masnachwyr y dref wedi rhoi coed Nadolig i fyny ac wedi addurno pethe.

"Mae pobol yn deall y sefyllfa ac maen nhw'n gwybod y byddan nhw'n cael sioe dda'r flwyddyn nesaf".




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific