British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010, 08:46 GMT
HIV ac AIDS yn derbyn 472,557

Celloedd HIV
Celloedd HIV

Mae elusen Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi derbyn £472,557 oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr er mwyn helpu pobl sy'n byw â HIV neu firysau gwaed eraill megis Hepatitis B yng Nghymru.

Bydd yr arian, sy'n cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod AIDS y Byd, yn ceisio mynd i'r afael a phroblemau cymdeithasol fel tlodi a stigma.

Mae'n golygu fod y Gronfa wedi dyfarnu cyfanswm o dros £1 miliwn dros gyfnod o flynyddoedd ar gyfer dioddefwyr HIV ac AIDS yng Nghymru.

Mae grwpiau eraill sydd wedi derbyn arian ers 1994 yn cynnwys dros £350,000 i ganghennau o Body Positive yng Nghymru, sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd yn HIV positif, eu teuluoedd a gofalwyr.

'Adnabod yr angen'

Dywedodd Pete Clark, cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru: "Rydym yn falch iawn fod y Gronfa Loteri Fawr wedi adnabod yr angen ar gyfer mwy o wasanaethau i bobl sy'n byw â HIV a hepatitis yng Nghymru.

"Er gwaethaf gwelliannau meddygol, nid yw byw gyda'r cyflyrau hyn ond yn golygu cofio i gymryd eich tabledi bob dydd.

"Mae nifer o'r rhai sy'n cael eu heffeithio yn wynebu sialensiau mewn rhannau eraill o'u bywydau, yn cynnwys lefelau uchel o dlodi, diweithdra, a stigma ac anffafriaeth annerbyniol."

"Bydd y grant yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sydd â HIV a hepatitis ar draws Cymru.

"Gall hynny fod yn weithdy ar sut i fynd nôl mewn i waith, cyngor wyneb yn wyneb ar sut i reoli arian gan rywun sydd hefyd yn byw gydag HIV neu hepatitis, neu gefnogaeth emosiynol ar gyfer eu gofalwyr di-dâl. Mae hwn yn brosiect hollbwysig.

'Gwahaniaeth anferthol'

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Loteri Fawr: "" Mae'r arian yn gwneud gwahaniaeth anferthol drwy gefnogi dioddefwyr, torri rhwystrau a helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r afiechyd.

"Mae cyngor a chefnogaeth gan y grwpiau rydym wedi eu hariannu yn helpu i drawsnewid bywydau bobl."



HEFYD
Cam ymlaen i wyddonwyr
13 Medi 10 |  Newyddion
HIV: Cynnydd yng Nghymru
01 Rhag 06 |  Newyddion
Dicter cwsmeriaid am brawf HIV
09 Medi 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific