British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2010, 08:58 GMT
'Oedi cyn penodi prif weithredwr newydd i S4C'

Huw Jones
Dywed Huw Jones bod angen oedi cyn penodi prif weithredwr newydd i S4C

Mae cyn-brif weithredwr S4C yn dweud bod angen oedi cyn penodi prif weithredwr newydd ar gyfer y sianel.

Daw sylw Huw Jones ar ôl i Gadeirydd Awdurdod S4C gadarnhau y bydd yn parhau yn ei swydd tan ei benblwydd yn 65 oed.

Ond wrth annerch staff y sianel ddydd Llun dywedodd John Walter Jones ei fod yn barod i adael petai'r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn dymuno hynny.

Gan mai ymhen ychydig fisoedd, ym mis Mawrth, y bydd yn ymddeol, dywed Huw Jones ei bod hi'n fwy addas disgwyl nes bod Cadeirydd newydd yn ei le cyn penodi prif weithredwr newydd.

Roedd dyddiad cau ceisiadau i fod yn brif weithredwr S4C ddydd Gwener.

Fe wnaeth Iona Jones adael ei swydd yn sydyn ym mis Gorffennaf.

Ers mis Awst, Arwel Ellis Owen sydd wedi bod yn arwain y sianel fel Prif Weithredwr Dros Dro.

"O wybod y bydd 'na gadeirydd newydd yn ei le neu yn ei lle, a hynny yn weddol fuan, mae hi'n amhriodol yn fy marn i fod y broses o benodi prif weithredwr newydd yn cario mlaen fel pe na bai hynny'n digwydd," meddai Huw Jones.

"Mae perthynas weithredol dda rhwng cadeirydd a phrif weithredwr yn hanfodol i lwyddiant gwasanaeth fel S4C, ac felly fe ddylai'r cadeirydd newydd fod yn ei swydd cyn i benodiad prif weithredwr newydd ddigwydd fel eu bod yn gallu gweithio fel tîm a symud ymlaen.

"Fe fyswn i'n argymell yn gryf y byddai penodiad y prif weithredwr yn cael ei rewi.

"Pan fydd cadeirydd newydd yn ei le neu ei lle, bydd cyfle i ail hysbysebu fel bod pobl efallai sydd ddim wedi rhoi eu henwau ymlaen oherwydd dryswch neu ansicrwydd natur yr awdurdod yn y dyfodol, yn cael cyfle i wneud hynny."



HEFYD
Cadeirydd S4C ddim yn gadael
29 Tach 10 |  Newyddion
Ymateb i 'lanast' darlledu Cymraeg
29 Tach 10 |  Newyddion
Cymryd camau yn erbyn S4C
26 Tach 10 |  Newyddion
Galw ar awdurdod i ymddiswyddo
25 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Pwy yw'r Cadeirydd?
25 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Pennaeth dros dro
30 Gorff 10 |  Newyddion
Prif Weithredwr wedi gadael S4C
28 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific