British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2010, 10:04 GMT
Mesur y galw am addysg Gymraeg ym Mhowys

Disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd mewn ystafell weithgareddau
Disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd mewn ystafell weithgareddau

Mae rhieni plant ifanc ym Mhowys wedi derbyn holiadur a fydd yn galluogi'r cyngor i fesur y galw am addysg Gymraeg yn y sir.

Bwriad y cyngor yw defnyddio'r canlyniadau ar gyfer dylanwadu ar y modd y bydd ysgolion yn cael eu had-drefnu yn y sir.

Fe fydd canlyniadau'r arolwg yn allweddol wrth i'r cyngor gynllunio'r dyfodol ar gyfer addysg Gymraeg yn y sir.

Ond yn ôl pennaeth un ysgol Gymraeg, sydd eisoes yn llawn, mae'n hollol amlwg fod y galw'n fawr.

Does 'na ddim neuadd gan Ysgol Dafydd Llwyd yn Y Drenewydd.

Pan fydd y plant i gyd yn dod at ei gilydd mae'n rhaid cyfarfod mewn ystafell weithgareddau.

Pob cornel yn llawn

Mae 'na gaban ychwanegol wedi ei ddarparu gan y sir ac mae modd defnyddio neuadd ysgol gyfagos yn achlysurol.

Ond ysgol newydd yw'r gobaith ar gyfer y 170 o blant sydd yn yr ysgol.

"Mae'r ysgol yn llawn," meddai Siân Davies, pennaeth Ysgol Dafydd Llwyd.

Arwydd Ysgol Dafydd Llwyd
Dywed pennaeth yr ysgol eu bod yn llawn

"Yr hyn sy'n drist yw bod y rheini yn gorfod gwneud apêl i anfon eu plant yma.

"Mae'r dosbarthiadau yn llawn ac rydan ni'n defnyddio pob cornel i'r eithaf.

"Dydi hyn ddim yn deg ar y plant a'r staff."

Dywedodd Wayne Williams o Gyngor Powys bod 'na dwf pendant mewn ardaloedd o'r sir.

"Yn ardal Ystradgynlais, Y Drenewydd a Machynlleth mae 'na dwf.

"Y dystiolaeth yw bod 'na dwf mewn pocedi arbennig.

"Y dasg yw gweld a oes 'na fodd datblygu ar y twf mewn ardaloedd eraill o'r sir."

Mae dros 1,000 o rieni plant ifanc wedi derbyn holiaduron yn gofyn am eu barn ynglŷn â darpariaeth addysg Gymraeg.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific