British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Tachwedd 2010, 20:02 GMT
Sefydlu cwmni di-elw i weddnewid Ynys Y Barri

Nells Point
Daw'r llun yma o Nells Point lle'r oedd miloedd o dwristiaid yn heidio i'r ardal ar gyfer eu gwyliau

Cwmni datblygu cymunedol newydd yn cael ei sefydlu er mwyn gweddnewid rhan o Ynys Y Barri.

Bwriad y cwmni dielw, @BarryIsland, fydd uno trigolion lleol, busnesau a'r ysgol leol er mwyn gwella delwedd y safle glan y môr, a'i weddnewid yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer gweithgareddau twristaidd ac addysgol.

Cafodd y cwmni ei sefydlu mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun oedd yn trafod cynlluniau ar gyfer hen wersyll gwyliau Butlins yn ardal Nells Point.

"Dyma gyfle unwaith mewn oes," meddai Howard Metcalfe, cadeirydd y cwmni.

"Dyma fydd cyfle olaf Y Barri i greu atyniad eiconig ar yr ynys.

"Fe fyddai'n dorcalonnus ei weld yn cael ei wastraffu.....allwn ni ddim dibynnu ar eraill i arwain, rhaid i'r gymuned gymryd yr awenau."

Ysgol

Mae'r cwmni yn gobeithio denu datblygiad o bwys a fydd yn gweddnewid delwedd yr ardal.

Ynys Y Barri
Un o'r delweddau o Ynys Y Barri

Maen nhw'n gobeithio denu atyniadau ar gyfer y flwyddyn gyfan, ac ym mhob tywydd, a fydd yn darparu cyfleoedd hamdden a swyddi cynaliadwy.

Y prosiect cyntaf fydd ail-adeiladu pwll padlo'r ynys ym Mae Whitmore.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys adeilad newydd Ysgol Y Môr a fydd yn ganolfan addysg tebyg i rai sydd eisoes ar Ynys Môn ac yn Llydaw sy'n gwneud y defnydd gorau o'r safle ar lan y môr i addysgu plant ac ymwelwyr o bob rhan o'r DU.

Fe fyddai'r ysgol yn cymryd dwy acer o'r 11 sydd angen eu datblygu.

Mae'r gymuned leol yn bryderus am safle Nells Point sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Gyngor Bro Morgannwg.

Maen nhw'n poeni y byddai'r safle yn cael ei werthu i'r rhai sy'n cynnig y mwya o arian er mwyn ariannu codi ysgol newydd ym Mhenarth.

Ers i'r ganolfan wyliau gau yn 1998 mae'r cyngor wedi bod yn marchnata'r safle.

Bwriad y cwmni newydd yw cyflwyno cynlluniau i adran gynllunio Bro Morgannwg yn y flwyddyn newydd.

Fe fyddan nhw'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn yr ardal er mwyn i'r trigolion lleol gael lleisio barn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific