British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Tachwedd 2010, 16:40 GMT
Ymateb i 'lanast' darlledu Cymraeg

Jeremy Hunt
Gwadodd Jeremy Hunt gyfrifoldeb am y 'llanast'.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Jeremy Hunt, wedi amddiffyn y modd y mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi delio gyda mater S4C.

Mae'n gwadu cyfrifoldeb am yr hyn a alwodd yn "llanast" mewn darlledu Cymraeg.

Cafodd Mr Hunt ei holi am drafferthion S4C gan AS Y Rhondda, Chris Bryant, yn ystod sesiwn holi ac ateb yn y Senedd ddydd Llun.

Dywedodd Mr Bryant fod y sianel wedi cael ei thrin "yn warthus" gan weinidogion.

'Haneru cynulleidfa'

Ond dywedodd Mr Hunt wrtho: "Cafodd y llanast mewn darlledu lleol yng Nghymru ddim ei chreu gan y llywodraeth hon - ei lywodraeth yntau a welodd cynulleidfaoedd S4C yn haneru dros y ddegawd ddiwethaf, gan wneud dim oll am y peth.

"Rydym wedi edrych am ffordd i sicrhau dyfodol diogel i S4C sy'n cadw'i hannibyniaeth, ei hunaniaeth annibynnol, ond sydd hefyd yn cynnig cefnogaeth ein darlledwr mwyaf iddi."

Pwysleisiodd Mr Bryant na fu ymgynghori o gwbl gyda phobl Cymru am ddyfodol S4C, ac fe fyddai Cymru'n cael ei gadael heb yr un presenoldeb monopolyddol mewn darlledu.

Fe wnaeth AS Wrecsam, Ian Lucas, feirniadu Mr Hunt am wrthod galwad gan holl arweinwyr gwleidyddol Cymru am adolygiad o S4C.

Mynnodd Mr Lucas nad oedd Mr Hunt yn "deall S4C".

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Mr Hunt ei fod wedi siarad gydag Aelodau Seneddol am ateb fyddai'n sicrhau arian i S4C am weddill cyfnod yr Adolygiad ar Wariant Cyhoeddus.

Mae Mr Hunt wedi galw ar Awdurdod S4C i "glirio'r anrhefn" pwy sy'n gyfrifol am y sianel.

Fe wnaeth AS Ceidwadol Bro Morgannwg, Alun Cairns, ofyn i Mr Hunt gadarnhau nad oedd 'na newid arweiniad wedi bod yn yr Awdurdod ar ôl adroddiadau'r wythnos diwethaf bod John Walter Jones, y cadeirydd, wedi ymddiswyddo cyn newid ei feddwl.



HEFYD
Cymryd camau yn erbyn S4C
26 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Dim adolygiad cyn 2015
25 Tach 10 |  Newyddion
Galw ar awdurdod i ymddiswyddo
25 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Pwy yw'r Cadeirydd?
25 Tach 10 |  Newyddion
S4C: 'Gormod o floneg'
23 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific