British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Tachwedd 2010, 07:12 GMT
Rhybudd i ffermwyr a'r cyhoedd

Defaid
Heddlu: 'Y troseddau'n ddifrifol a'r effaith yn fawr ar fywoliaeth ffermwyr ...'

Mae'r heddlu ac undebau wedi rhybuddio ffermwyr a'r cyhoedd am fod defaid wedi eu dwyn yn y gogledd.

Ers mis Medi mae o leia 70 o ddefaid wedi eu dwyn rhwng Dolgellau a Rhuthun ac mae'r heddlu wedi dweud y dylai ffermwyr fod yn wyliadwrus.

Ym mis Hydref fe gafodd 33 o ddefaid eu dwyn o gae yn Efenechtyd, Rhuthun.

Ddechrau mis Tachwedd fe gafodd 25 eu dwyn o dir i'r de o Ddolgellau.

Dywedodd yr Arolygydd Dewi Roberts: "Mae'r troseddau hyn yn ddifrifol a'r effaith yn fawr ar fywoliaeth ffermwyr a'r gymuned ehangach.

'Stopio'

"Yn sicr, mi fydd mwy o gylchwylio yn ne Sir Ddinbych a cherbydau'n cael eu stopio.

"Gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ffermwyr."

Dywedodd Undeb y Ffermwyr Cymru fod y broblem yn cynyddu.

"Ac mae hwn yn ofid mawr i ffermwyr da byw," meddai Cadeirydd Cangen Rhuthun, Gareth Jones.

'Yn ehangach'

"Erbyn hyn, mae nifer fawr o ddefaid wedi eu dwyn yn Sir Ddinbych a dwi'n sicr fod hon yn broblem ehangach."

Dywedodd Marian Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae'r gyfres o droseddau yn ardal Rhuthun yn ofid i ni.

"Os yw rhywun yn gweld rhywbeth amheus, mi ddylai nodi rhif cofrestru a rhoi gwybod i'r heddlu ar unwaith."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, 0845 6071001 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.



HEFYD
Rhybudd: 'Byddwch yn ofalus'
17 Ebr 09 |  Newyddion
Pryder am ddwyn defaid
22 Tach 04 |  Newyddion
Plismon newydd i gefn gwlad
16 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific