British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 26 Tachwedd 2010, 06:14 GMT
Iona Jones yn dwyn achos yn erbyn ei chyn-gyflogwr

Iona Jones
Ymunodd Iona Jones ag S4C yn gyntaf ym 1995

Mae cyn-Brif Weithredwr S4C wedi dechrau cymryd camau i fynd â'i chyn-gyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.

Fe adawodd Iona Jones ei swydd yn sydyn ym mis Gorffennaf.

Mae BBC Cymru yn deall ei bod hi'n honni iddi gael ei diswyddo'n annheg a'i bod hi hefyd yn honni bod yna resymau eraill yn ymwneud â gadael ei swydd.

Fe gadarnhaodd y Gwasanaeth Tribiwnlys Cyflogaeth fod Ms Jones wedi anfon dogfennau at y swyddfa yng Nghaerdydd.

Fel rhan o'r broses fe fydd S4C yn cael cyfle i ymateb i'r honiadau ac fe fydd barnwr yn adolygu tystiolaeth gan y ddwy ochr.

Does 'na ddim dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer y gwrandawiad.

Dim manylion

Dydi'r manylion am adael y swydd yn fuan ar ôl cyfarfod Awdurdod S4C ddim wedi cael eu datgelu - er gwaethaf galwadau am eglurhad ers yr haf.

Ar y pryd wnaeth Ms Jones ddim sylw.

Mewn datganiad ar y pryd dywedodd S4C: "Dymuna aelodau Awdurdod S4C ddiolch i Iona Jones am ei gwasanaeth i'r Sianel.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach."

Ms Jones oedd y fenyw gyntaf i fod yn brif weithredwr S4C a'r pedwerydd pennaeth yn hanes y sianel sefydlwyd yn 1982.

Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr i BBC Cymru cyn dod yn Olygydd y rhaglen nosweithiol Newyddion.

Daw'r cyhoeddiad diweddara wedi dyddiau anodd i'r sianel wrth i rai alw ar Awdurdod S4C i ymddiswyddo a dryswch ynglŷn ag ymddiswyddiad Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones.



HEFYD
Prif Weithredwr wedi gadael S4C
28 Gorff 10 |  Newyddion
S4C: Pennaeth newydd
31 Mai 05 |  Newyddion
Pennaeth rhaglenni newydd i S4C
11 Gorff 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific