British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010, 12:01 GMT
Swyddi ar gae pÍl-droed?

Stadiwm Ffordd Farrar
Bydd y clwb pÍl-droed yn symud i safle newydd

Gallai 240 o swyddi gael eu creu os fydd cynllun i godi archfarchnad newydd ym Mangor yn cael ei gymeradwyo.

Y bwriad yw codi'r siop ar safle presennol Clwb Pêl-droed Dinas Bangor ar Ffordd Farrar.

Dywed cwmni datblygu lleol, Deiniol Developments, eu bod wedi cyfnewid cytundebau gyda chwmni Asda ar gyfer archfarchnad newydd os daw caniatâd cynllunio.

Cafodd Deiniol Developments ei ffurfio gan ddau gwmni arall - Watkin Jones a Morbaine - ar gyfer y prosiect yma.

'Hwb'

Dywedodd Mark Watkin Jones o Deiniol Developments: "Rydym wrth ein bodd yn cadarnhau ein bod wedi cyfnewid cytundebau gydag Asda i ddarparu siop newydd ar safle Ffordd Farrar.

"Rydym eisoes wedi cael caniatâd am siop fwyd 12,000 metr sgwâr, ac yn hyderus y bydd ein cynlluniau yn cwrdd â gofynion cynllunio.

"Dyma'r hwb oedd ei angen i gwblhau'r gwaith ar stadiwm newydd yn Nantporth - cartre' newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor - lle mae'r cae a ffordd fynediad eisoes wedi eu sefydlu."

'Cyffrous'

Cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yw Dilwyn Jones. Dywedodd:

"Mae'r posibilrwydd y bydd gan y clwb gartre' newydd rhywbryd yn ystod tymor 2011/12 yn gyffrous dros ben.

"Gyda'r clwb yn perfformio mor dda ar y funud, bydd yr adnoddau newydd yn Nantporth yn hwb pellach i ni.

"Rydym yn gwybod fod y datblygwyr wedi gweithio'n ddiflino i ddenu buddsoddiad gan fanwerthwyr, a gyda'r hinsawdd economaidd roedden ni wedi derbyn y byddai'n rhaid aros ar Ffordd Farrar - gydag adnoddau diffygiol ac angen buddsoddiad sylweddol - am y dyfodol hyd y gellir ei ragweld."

Partneriaeth

Dywedodd Avnish Raichura, sy'n llefarydd ar ran Asda: "Rydym yn falch o fod yn buddsoddi yn yr ardal, ac yn edrych ymlaen at wasanaethu'r gymuned a chreu swyddi newydd.

"Nod ein siopau yw bod yn rhan anhepgor o'r gymuned, ac rydym yn edrych ymlaen ar weithio mewn partneriaeth gyda chynrychiolwyr lleol a'r gymuned ehangach ym Mangor am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau fod cais i adolygu caniatâd cynllunio ar gyfer siop fwyd mawr i gael ei chodi ar safle presennol Clwb Pêl-droed Dinas Bangor ar Ffordd Farrar wedi cael ei gyflwyno i'r adran gynllunio gan gwmni Morbaine.

"Bydd y cais yn dilyn llwybr statudol y broses ymgynghori, ac mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno i'r pwyllgor cynllunio rhywdro yn y flwyddyn newydd."



HEFYD
Cae pÍl-droed i gael ei ddymchwel
31 Gorff 08 |  Newyddion
Stadiwm newydd gam yn nes
14 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific