Dywed yr AC nad yw Awdurdod S4C yn peomi am ddyfodol y sianel
Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru wedi galw ar bob aelod o Awdurdod S4C i ymddiswyddo - ag eithrio'r cadeirydd, John Walter Jones.
Maen nhw'n anhapus â'r modd mae'r awdurdod yn gweithredu.
Maen nhw'n dweud bod rhai aelodau yn poeni fwy am "sgorio pwyntiau gwleidyddol drwy ymosod ar y Llywodraeth yn San Steffan, yn hytrach nac ar ddyfodol y sianel".
Mae Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb yn honni fod yr awdurdod wedi "methu yn gyson dros gyfnod o flynyddoedd".
Fe ddaw'r sylwadau ddiwrnod wedi i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan glywed tystiolaeth yn eu hymchwiliad i ddyfodol y sianel.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol cwmni Tinopolis, Ron Jones, wrth y pwyllgor bod S4C yn "sefydliad blonegog" allai gael ei redeg yn fwy effeithlon.
Symud ymlaen
Dywedodd cyn-bennaeth BBC Cymru, Geraint Talfan Davies, nad oes modd gweithredu'r strwythur newydd sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Prydain, bod y BBC yn gyfrifol yn rhannol am ariannu S4C.
Dydd Mercher dywedodd Mr Bebb wrth BBC Cymru bod criw o Aelodau Seneddol wedi dod i'r casgliad, ac yn benodol ar ôl clywed y dystiolaeth yn y pwyllgor, fod awdurdod S4C "yn rhan o'r boblem yn hytrach na bod yn rhan o'r ateb".
Mae'n ymddangos bod gan yr aelodau fwy o ddiddordeb mewn ymladd brwydrau a thanseilio aelodau eraill o'r awdurdod na sydd ganddyn nhw mewn gweithredu yn gadarnhaol er mwyn symud S4C ymlaen i'r dyfodol
Guto Bebb, AS Ceidwadwol Aberconwy
"Mae'n hollol amlwg bod gan rai aelodau o'r awdurdod fwy o ddiddordeb i sgorio pwyntiau gwleidyddol na sydd ganddyn nhw mewn symud ymlaen i greu setliad i S4C a fydd yn galluogi'r diwydiant teledu yng Nghymru i symud ymlaen yn adeiladol i'r dyfodol."
Dywedodd eu bod yn "gwneud mwy o ddrwg nag o les i'r sianel".
"Rydan ni'n son am ddyfodol diwydiant pwysig yng Nghymru ac am ddyfodol sianel sy'n allweddol i'r Gymraeg.
"Mae gen i ofn bod hi'n hollol amlwg bod 'na aelodau o'r awdurdod sy'n chwarae gemau gwleidyddol yn hytrach na gweithredu yn adeiladol ar gyfer dyfodol y sianel.
"Mae'n amlwg bod aelodau o'r awdurdod wedi methu yn gyson am nifer o flynyddoedd.
'Gwneud dim'
"Yr awdurdod, sy'n honni bellach ei bod yn amddiffyn S4C ac amddiffyn cyfraniad economaidd S4C mewn ardaloedd megis gogledd orllewin Cymru ydi'r union yr un awdurdod oedd yn eistedd ar eu dwylo a gwneud dim byd pan oedd S4C yn gwneud penderfynaidau oedd yn arwain at golli swyddi cyson yng ngogledd orllewin Cymru.
"Mae'n amlwg i mi bod y diwydiant wedi colli hyder yn yr awdurdod a dwi'n credu bod gwleidyddion wedi hen golli hyder yn yr awdurdod.
"Mae'n ymddangos bod gan yr aelodau fwy o ddiddordeb mewn ymladd brwydrau a thanseilio aelodau eraill o'r awdurdod na sydd ganddyn nhw mewn gweithredu yn gadarnhaol er mwyn symud S4C ymlaen i'r dyfodol."
Fe wnaeth un aelod o'r Awdurdod gadarnhau fod yr Awdurdod wedi cwrdd nos Fawrth i drafod y datblygiadau, ond doedd Roger Jones - cyn llywodraethwr BBC Cymru - ddim yn barod i wneud sylw ar y mater.
Mae disgwyl ymateb pellach gan Adran Ddiwylliant llywodraeth San Steffan (DCMS) a gan S4C eu hun yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.