British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2010, 07:14 GMT
Trafod system chwistrellu dwr ym mhob cartref newydd

Caroline Tucker
Dywed Caroline Tucker bod systemau yn mynd i allu achub bywydau

Mae un o Aelodau'r Cynulliad yn gobeithio y bydd hi'n orfodol cael system chwistrellu dŵr ym mhob cartref newydd yng Nghymru.

Mae'r mesur arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol bod adeiladwyr tai yn gosod systemau chwistrellu dŵr mewn cartrefi newydd a adeiladir yng Nghymru.

Dydd Mercher fe fydd yr ACau yn cael cyfle i drafod y mesur.

Mae'r mesur wedi ei chyflwyno gan Ann Jones, Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd, ar ôl iddi ennill balot yr aelodau i gyflwyno deddfwriaeth.

Mae teulu o Abertawe gafodd eu hanafu mewn tân wedi cynnig eu cefnogaeth i'r mesur.

Achub bywyd

Wrth geisio achub ei chwaer 4 oed fe ddioddefodd Caroline Tucker, a oedd yn 11 oed, losgiadau difrifol.

Fyddwn i ddim fel yr ydw i heddiw petai larymau a systemau chistrellu dŵr yn y tŷ
Caroline Tucker

Yn anffodus methodd ag achub ei chwaer o'u cartref yn Abertawe yn 1988.

Mae Caroline yn dal i gael triniaeth i'w hanafiadau ar ôl llosgi 75% o'i chorff.

Dywedodd bod hi'n bwysig bod 'na larymau mwg a/neu systemau chwistrellu mewn cartrefi er mwyn atal yr un peth ddigwyddodd iddi hi i ddigwydd i eraill.

"Mae'n mynd i achub bywydau," meddai.

"Fe fydd yn cwtogi nifer y dioddefwyr llosgiadau a lleihau nifer y marwolaethau.

"Pan mae pobl yn gweld rhai sydd wedi cael eu llosgi dydyn nhw ddim yn sylweddoli'r effeithiau seicolegol, dim ond yn gweld yr ochr gorfforol.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod be sydd y tu ôl i'r creithiau.

"Fyddwn i ddim fel yr ydw i heddiw petai larymau a systemau chwistrellu dŵr yn y tŷ."

Deddf

Fe ychwanegodd ei mam, Sian Tucker, y bydd y mesur yma yn rhwystro pobl eraill rhag wynebu'r un peth ag y mae hi wedi ei wynebu.

Amanda Tucker
Bu farw Amanda Tucker yn y tn

"Mae pobl yn meddwl fydd hyn byth yn digwydd i chi, ond fe all.

"Fe ddylai systemau fod ym mhob tŷ, yn sicr mewn tai newydd.

"Dwi'n gwybod nad yw'n rhywbeth y gellir ei wneud dros nos ond fe ddylai fod yn ddeddf."

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 wedi cynnal ymchwiliad o bedwar mis gyda'r Gwasanaeth Tân, adeiladwyr tai a chynrychiolwyr y diwydiant dŵr yn darparu tystiolaeth.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell bod aelodau yn cefnogi'r mesur arfaethedig mewn egwyddor.

Os bydd Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi'r Mesur arfaethedig mewn egwyddor caiff ei anfon yn ôl at y Pwyllgor Deddfwriaeth er mwyn iddo drafod unrhyw welliannau a gaiff eu cyflwyno.



HEFYD
Chwistrellwyr i dai newydd?
18 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific