British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 15:37 GMT
'Gallai'r clwydi hyn ladd pobl'

Karolina Golabek
Bu farw Karolina Golabek ym mis Gorffennaf.

Mae rhieni merch bum mlwydd oed gafodd ei lladd gan glwyd awtomatig yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am y peryglon.

Wrth siarad am y tro cynta' ers ei marwolaeth, mae rhieni Karolina Golabek wedi dweud bod angen lledu'r neges y gallai'r clwydi ladd pobl.

Bu farw Karolina ym Mhen-y-bont-ar-Ogwr yn yr haf ychydig o ddyddiau wedi marwolaeth merch fach arall o dan amgylchiadau tebyg.

Lladdwyd Semelia Campbell gan glwyd awtomatig ym Manceinion.

Dywedodd Jozef Golabek a Barbara Michalak na ddylai marwolaethau fel hyn ddigwydd eto.

'Anodd iawn'

Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Karolina mewn bloc o fflatiau ar Orffennaf 3 a does dim cwest wedi ei gynnal hyd yn hyn.

Dywedodd y ddau wrth raglen Week In Week Out ar BBC Cymru: "Mae'n anodd iawn siarad am hyn, ond y rheswm am wneud yw siarad ar ran eraill.

"Os bydd y rhaglen yn golygu y gallwn ni achub bywyd arall, yna rydyn ni am godi ymwybyddiaeth am y peryglon."

Yr amcangyfri yw bod 35% yn fwy o glwydi trydanol wedi eu gosod ers pum mlynedd.

Mae ymgyrch wedi dechrau i annog y llywodraeth i dynhau'r rheolau ac fe gafodd deiseb ei chyflwyno i Downing Street gan deuluoedd y ddwy ferch fach.

'Diangen'

Maen nhw'n ddamweiniau ac yn farwolaethau diangen
Richard Jackson

Ymgyrch Gate Safe

Sefydlydd yr ymgyrch yw dyn sy'n gosod clwydi o'r fath, Richard Jackson.

"Y ffaith yw bod dau blentyn wedi marw a bod sawl damwain bron wedi digwydd.

"Maen nhw'n ddamweiniau ac yn farwolaethau diangen.

"Does neb yn gofalu fod y clwydi hyn yn ddiogel. Byddwn wrth fy modd pe bai corff yn cael ei sefydlu i archwilio'r clwydi hyn ac yn rhoi marc diogelwch iddyn nhw, hynny yw fel pob math o nwyddau trydanol eraill yn y cartref."

Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod wedi cyhoeddi taflen canllawiau i gwmnïau sy'n gosod y clwydi.

Cyfrifoldeb y cwmni, meddai, yw sicrhau eu bod yn ddiogel.

Week in Week Out, nos Fawrth, 10.35pm



HEFYD
'Angen sicrhau diogelwch giatiau'
02 Medi 10 |  Newyddion
Cwest merch laddwyd gan git
13 Gorff 10 |  Newyddion
Teyrnged teulu i ferch
05 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific