British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 21:02 GMT
Priodas mis Ebrill i William a Kate

Dyddiad y Briodas Frenhinol yn cael ei gyhoeddi

Daeth cyhoeddiad y bydd y Tywysog William a Kate Middleton yn priodi yn Abaty Westminster ddydd Gwener, Ebrill 29, 2011.

Fe wnaeth y pâr ddechrau canlyn wyth mlynedd yn ôl pan oedden nhw'n astudio ym Mhrifysgol St Andrews.

Fe wnaethon nhw ddyweddïo ar eu gwyliau yn Kenya ym mis Hydref.

Roedd William wedi gofyn i Kate ei briodi â modrwy ddyweddïo ei fam, Diana.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'n "achlysur hapus a phwysig iawn" ac y byddai diwrnod o wyliau cyhoeddus.

Trethdalwyr

Y Teulu Brenhinol fydd yn talu am y briodas ond trethdalwyr fydd yn talu am ddiogelwch ychwanegol a thrafnidiaeth.

Kate Middleton a'r Tywysog William
Fe wnaeth William a Kate ddyweddio ar wyliau ym mis Hydref

Yn Abaty Westminster y cynhaliwyd priodasau'r Frenhines a'r Fam Frenhines ac yna cafodd angladd y Dywysoges Diana ei gynnal ym 1997.

Dywedodd Ysgrifennydd Preifat y Tywysog, Jamie Lowther-Pinkington, fod y pâr eisiau priodas wanwyn a'u bod yn teimlo bod yr abaty yn "cynnig rhywfaint o agosatrwydd" er gwaetha' ei faint.

"Rydym ni'n gwybod y bydd y byd yn gwylio ar Ebrill 29 ac mae'r cwpl yn awyddus iawn, iawn y dylai'r achlysur fod yn esiampl dda o'r hyn y mae Prydain yn ei wneud orau," meddai.

Bydd y gwyliau ychwanegol yr un wythnos â Dydd Llun Pasg, gan olygu wythnos dridiau i filiynau o weithwyr.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron: "Rydym ni eisiau i'r achlysur fod yn ddathliad Prydeinig."

Llongyfarch

Eisoes mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi llongyfarch y Tywysog William a Kate Middleton ar eu dyweddïad.

"Rwy'n falch iawn i glywed eu bod yn bwriadu dechrau eu bywyd priodasol yng Ngogledd Cymru.

"Rwy'n siwr fy mod yn siarad ar ran pobl Cymru yn dymuno'r gorau iddyn nhw am eu hapusrwydd yn y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams, Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn, ei fod hefyd yn llongyfarch y Tywysog a Kate Middleton.

"Dyma newyddion gwych ac rydym wrth gwrs yn falch iawn drostynt, a'r ffaith eu bod wedi penderfynu ymgartrefu yma yng ngogledd Cymru."

• Oherwydd dyddiad y briodas a'r ffaith y bydd yn Ŵyl y Banc, fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ddiddymu am hanner nos ar Fawrth 31 yn hytrach na hanner nos Ebrill 1 gan fod angen 28 niwrnod rhwng diddymu'r corff a'r etholiad.



HEFYD
Tywysog William i briodi
16 Tach 10 |  Newyddion
Tywysog yn gymwys i hedfan
17 Medi 10 |  Newyddion
'Nid trethdalwyr lleol fydd yn talu'
19 Gorff 10 |  Newyddion
Tywysog: Hyfforddi yng Nghymru
12 Ion 09 |  Newyddion
Tywysog yn dod i Gymru
15 Ebr 10 |  Newyddion
Tywysog ar gwrs arbennig
15 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific