British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 13:15 GMT
S4C: 'Gormod o floneg'

Tystiolaeth am ddyfodol S4C i Aelodau Seneddol

Mae S4C yn "sefydliad blonegog" allai gael ei redeg yn fwy effeithlon, meddai pennaeth un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru.

Roedd Ron Jones, Prif Weithredwr Tinopolis, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan am ddyfodol S4C.

Dywedodd fod S4C yn ystyried ei hun yn "gorff mawr a phwysig" ond pwysleisiodd y gallai'r sianel gael ei rhedeg yn well pe bai'n dechrau meddwl am ei hun fel "corff bychan unwaith eto."

'Anweithredol'

Dywedodd cyn-Reolwr BBC Cymru, Geraint Talfan Davies, fod strwythur y sianel y cyfeiriwyd ato yn llythyr yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn "anweithredol" a bod y drefn newydd yn "swnio'n ddrud a beichus."

Un arall fu'n annerch y pwyllgor oedd yr arbenigwr darlledu, yr Athro Ian Hargreaves.

Ychwanegodd yntau fod y cytundeb â'r BBC yn "ddiffygiol" a galwodd am adolygiad difrifol a brys.

Mae'r tri wedi beirniadu'r penderfyniad i hysbysebu swydd Prif Weithredwr S4C, gan ddweud y dylai'r penodiad aros tan fod y cytundeb â'r BBC wedi ei gwblhau.

'Cynllwyn'

Er bod y tri yn cytuno na ddylai S4C osgoi toriadau yn llwyr, dywedodd yr Athro Hargreaves fod y toriadau i gyllideb S4C yn llym.

"Allwch chi ddim torri cymaint â hynny heb effeithio ar safon ..."

Wrth sôn am drafferthion y sianel, dywedodd Mr Jones fod yna fai ar ysgwyddau'r rheolwyr ac Awdurdod S4C.

Dywedodd Mr Talfan Davies fod y sianel wedi diodde oherwydd "cynllwyn o dawelwch" a honnodd fod rhai'n ofni cymryd cyfrifoldeb am y sianel, yn enwedig ym Mae Caerdydd.



HEFYD
'Angen i S4C fod yn annibynnol'
17 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Mudiad yn mynegi pryder
12 Tach 10 |  Newyddion
Protest dros ddyfodol S4C
06 Tach 10 |  Newyddion
S4C: arweinwyr yn galw am adolygiad
02 Tach 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific