British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 11:00 GMT
Swyddi'n 'dibynnu' ar drydaneiddio

TrÍn yng ngorsaf Caerdydd
TrÍn yng ngorsaf Caerdydd

Mae grŵp o bobl fusnes yng Nghaerdydd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru yn dweud y dylai trydaneiddio'r lein rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain fod yn flaenoriaeth.

Dywed Partneriaeth Busnes Caerdydd y gallai 20,000 o swyddi fod yn y fantol.

Mae'r grŵp yn honni y byddai economi Cymru a de-orllewin Lloegr yn diodde' pe na bai'r newid yn digwydd.

Annigonol

Dywedodd cadeirydd y Bartneriaeth, Adrian Clark: "Rydym yn pryderu na fydd y buddsoddiadau cyfalaf a gyhoeddwyd yn yr Arolwg ar Wariant Cyhoeddus yn ddigonol i gefnogi twf economaidd ar draws y DU.

"Yn benodol, mae pryder na fydd y lein o Lundain i Abertawe yn cael ei thrydaneiddio, tra bydd y llywodraeth yn bwrw 'mlaen gyda chynllun ar gyfer rheilffordd gyflym o Lundain i Leeds a Manceinion."

Gallai peidio trydaneiddio'r lein, medd y grŵp, weld Cymru yn gweld llai o dwf blynyddol.

Byddai hynny gyfystyr ag 20,000 yn llai o swyddi, yn ôl y grŵp.

"Byddai trydaneiddio o fudd uniongyrchol i economi'r miliynau o bobl sy'n byw yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Bryste," meddai Roy J Thomas, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth.

"Oherwydd cyflwr bregus iawn economi Cymru - y gwaethaf o unrhyw ranbarth yn y DU - rydym yn credu y dylai Llywodraeth San Steffan fwrw 'mlaen i sicrhau fod buddsoddi cyfalaf mewn isadeiledd yn parhau yn flaenoriaeth."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific