British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 07:44 GMT
Pryderon plant am oryrru

Graffeg

Mae arolwg newydd yn awgrymu fod 90% o blant yng Nghymru yn credu fod pobl yn gyrru'n rhy gyflym trwy eu cymunedau, gan roi bywydau ifanc mewn peryg.

Cafodd dros fil o blant rhwng 9 a 13 oed eu holi ar gyfer yr arolwg, a gafodd ei wneud ar ran elusen Brake ar gyfer Wythnos Diogelwch ar y Ffordd.

Yn ôl yr arolwg:

• Mae 9 o bob 10 plentyn yn credu fod pobl yn gyrru'n rhy gyflym o gwmpas eu cartrefi a'u hysgolion.

• Dywedodd 12% o blant eu bod wedi cael eu taro gan gerbyd tra'n cerdded neu seiclo.

• Roedd 56% yn dweud eu bod bron â chael eu taro.

• Dywedodd 17% eu bod wedi cael profiad dychrynllyd gyda thraffig.

Mae Wythnos Diogelwch ar y Ffordd yn cael ei lansio gan blant Ysgol Gynradd Parc Ninian yng Nghaerdydd.

Newid y gyfraith

Mae dau o'r disgyblion yno eisoes wedi cael eu taro gan gerbyd, ac mae'r ysgol nawr yn ymgyrchu i geisio gorfodi pobl i yrru'n arafach ar ffyrdd lleol.

Cafodd Riaz Uddin, disgybl pedair oed, a'i hewythr Shamim Mohammed eu taro gan gar wrth groesi y tu allan i'r ysgol yn gynharach eleni.

Maen nhw nawr yn galw ar bobl i arafu i 20 milltir yr awr neu lai wrth yrru heibio ysgolion neu gartrefi.

Yn ôl elusen Brake, cafodd 11 o blant eu lladd a bron i 200 eu hanafu yng Nghymru'r llynedd.

Mae'r elusen eisiau gweld y gyfraith yn newid i sicrhau mae 20 milltir yr awr yw'r uchafswm cyflymder y tu allan i ysgolion - cyflymder sy'n rhoi cyfle i osgoi gwrthdrawiad yn ôl arbenigwyr.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific