British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010, 10:21 GMT
Cynllun i ddiogelu ffermydd

Mae'r heddlu yn annog ffermwyr yng ngogledd Powys i ymuno â rhwydwaith newydd er mwyn ceisio atal lladron yng nghefn gwlad.

Bydd yna bwyslais hefyd ar fesurau i rwystro fandaliaeth.

Yn y gorffennol mae yna broblemau o beiriannau amaethyddol a beiciau cwad yn cael eu dwyn.

Bydd y cynllun gwylio newydd yn cynnwys ardaloedd Llanfair Caereinion, Castell Caereinion, Meifod, Llangadfan, Llanerfyl, Foel, Llanfyllin, Llansanffraid, Llanrhaeadr, Pen-y-bont-fawr, Llangynog a Llanfechain.

Dywedodd y cwnstabl Phil Youens o Heddlu Dyfed Powys, yn ogystal â dwyn mae yna broblemau eraill sy'n effeithio ffermwyr fel pobl yn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, a phobl yn gyrru ceir dros gaeau.

"Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gefnogaeth ffermwyr lleol,"

"Mae'n bwysig fod gwybodaeth yn llifo'r ddwy ffordd, er mwyn i ni gael gwybod am ymddygiad amheus a'i rwystro ac er mwyn i rybuddio eraill o'r peryglon."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific