British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Tachwedd 2010, 10:06 GMT
'Stopiwch y fandaliaid'

Plasty Parc Howard
Cafodd y plasty ei roi i bobl tre Llanelli yn 1912

Mae ymosodiadau fandaliaid a lladron yn peryglu dyfodol un o adeiladau mwyaf enwog Llanelli.

Achoswyd difrod i do plasty Parc Howard wrth i blwm gael ei ddwyn o'r to.

Mae gerddi a'r parc sy'n amgylchynu'r adeilad hanesyddol hefyd wedi eu difrodi.

Mae'r parc yn gyrchfan boblogaidd i bobl yr ardal ac yn gartref i amgueddfa'r dre.

Adeilad rhestredig

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod yn apelio ar bobl i ffonio'r heddlu os ydyn nhw'n gweld rhywun yn difrodi'r safle.

Yn ôl llefarydd, mae'n anodd i'r sir barhau i dalu am drwsio'r adeilad rhestredig.

Cafodd yr adeilad ei godi yn yr 1880au a'i roi i bobl Llanelli gan Syr Stafford a'r Foneddiges Howard bron canrif yn ôl.

"Yn anffodus, mae plwm wedi ei ddwyn o'r to - y trydydd neu bedwerydd tro i hyn ddigwydd," meddai'r Cynghorydd Clive Scourfield, aelod o Fwrdd Rheoli y cyngor sir.

"Bydd modd hawlio arian yswiriant ond, yn y pen draw, mae yna beryg y bydd cwmnïau yn gwrthod rhoi yswiriant."

Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi gwario bron £200,000 yn atgyweirio ac yn gwella mynediad i'r anabl.

• Fe fydd rhaglen Manylu nos Lun Tachwedd 22 yn edrych ar y cynnydd mawr mewn achosion o fetel sy'n cael ei ddwyn gyda'r heddlu yn galw am fesurau newydd i gau iardiau sgrap sy'n torri rheolau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific