British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2010, 19:45 GMT
'Pwysig i S4C fod yn annibynnol'

Mark Thompson
Dywedodd Mr Thompson mai Llywodraeth San Steffan a gafodd y syniad am y bartneriaeth

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson yn dweud ei bod yn bwysig bod S4C yn cadw ei hannibyniaeth yn y dyfodol.

Ychwanegodd bod gan y BBC "ymrwymiad angerddol" tuag at ddarlledu yn yr iaith Gymraeg a'i bod yn benderfynol o sicrhau ei ddyfodol.

Dywedodd Mr Thompson mai Llywodraeth San Steffan a gafodd y syniad am y bartneriaeth gydag S4C.

"Cynnig gan y llywodraeth oedd e, ond cynnig y cawson ni beth amser, rhai dyddiau, i ystyried.

"Roeddwn i'n medru siarad gyda chydweithwyr yn BBC Cymru a gofyn am eu cyngor a'u gwybodaeth."

'Partneriaeth'

Dywedodd bod y BBC wedi bod yn llawer mwy nag un o gyflenwyr S4C yn unig.

"Pan mae pobol yn gwylio Newyddion, dydyn nhw ddim yn meddwl bod y BBC dim ond yn digwydd bod yn gyflenwr y rhaglen, maen nhw'n ei ystyried fel darn o ddarlledu newyddion gan y BBC gyda holl bwysau'r BBC y tu ôl iddo.

"Mae S4C wedi cael partneriaeth gyda'r BBC ers genedigaeth y sianel, partneriaeth ddofn".

Ond wrth ymweld â Chaerdydd ddydd Gwener mi wrthododd e roi addewid am faint o arian ddaw i'r sianel o'r drwydded deledu o 2015 ymlaen.

'Ymgyrchu'

Cafodd hynny ei feirniadu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Menna Machreth, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ddarlledu: "Rydym ni fel ymgyrchwyr yn dweud fod rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth a bod fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon.

"Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn."

Ym mis Hydref dywedodd Llywodraeth San Steffan eu bod am i'r BBC ariannu S4C bron yn llwyr.

Ar hyn o bryd mae'r sianel yn derbyn tua £100 miliwn oddi wrth yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.



HEFYD
S4C: Mudiad yn mynegi pryder
12 Tach 10 |  Newyddion
Protest dros ddyfodol S4C
06 Tach 10 |  Newyddion
S4C: arweinwyr yn galw am adolygiad
02 Tach 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific