British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2010, 10:07 GMT
Preifateiddio hofrenyddion?

Hofrennydd
Mae disgwyl i'r hofrenyddion newydd gymryd lle y Sea King

Mae'r BBC yn deall bod gweinidogion Llywodraeth San Steffan am i gwmnïau preifat redeg gwasanaeth hofrenyddion achub.

Os yw'r drefn yn dod i rym, byddai'n effeithio ar wasanaeth yr Awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn.

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Phillip Hammond, a'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, am weld i gwmnïau preifat ariannu'r gwasanaeth.

Ar hyn o bryd yr Awyrlu a Gwylwyr y Glannau sy'n cynnal y gwasanaeth.

Poeni

O fewn tair blynedd mae angen fflyd newydd i gymryd lle'r hofrenyddion Sea King.

Yn ôl y gweinidogion, byddai'r cwmnïau preifat yn gyfrifol am y criwiau, yr hofrenyddion a'r peirianwyr.

Ond bydd angen i'r Trysorlys gytuno ag unrhyw newidiadau.

Eisoes dywedodd cyn-uwch swyddog yr Awyrlu wrth y BBC ei fod yn poeni na fyddai'r gwasanaeth preifat yn ddigon hyblyg.

Trafod

Dyw preifateiddio ddim yn syniad newydd.

Roedd y llywodraeth flaenorol wedi trafod y syniad o gael hofrenyddion o America ar gost o £7 biliwn.

Ond cafodd y cynllun ei roi o'r neilltu gan Lywodraeth y Glymblaid yn Llundain wedi'r etholiad ym mis Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi ymrwymo i sicrhau y byddai gwasanaeth hofrenyddion achub "o safon uchel".



HEFYD
Yn erbyn is-raddio gwasanaeth achub
31 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific