British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2010, 14:11 GMT
Angladd Cymro oedd yn yr Awyrlu

Angladd Scott Hughes

Cafodd angladd milwr o Gymru a gafodd ei ladd mewn damwain ger Ynys Cyprus ei gynnal ddydd Gwener.

Bu farw Scott Hughes, 20 oed o'r Felinheli, Gwynedd ar ôl cael ei daro gan gwch milwrol wrth iddo nofio yn y môr ger Akrotiri.

Roedd yn aelod o'r llu awyr ac ar ei ffordd adref o Afghanistan ar ôl chwe mis yn y wlad.

Roedd ei angladd yn Eglwys y Santes Fair yn Y Felinheli ddydd Gwener.

Roedd yn aelod o Sgwadron 1 Catrawd yr Awyrlu Brenhinol y mae ei chanolfan yn Honington ger Bury St Edmunds.

Seremoni

Bu farw o'i anafiadau ddiwrnod ar ôl y ddamwain.

Cafodd seremoni breifat ei chynnal ddydd Mawrth ar ôl i'r corff gyrraedd Canolfan yr Awyrlu yn Lyneham cyn i'r arch gael ei chludo drwy dref Wootton Bassett gerllaw.

"Mae ein mab hyfryd a dewr, oedd yn fachgen llawn hwyl, wedi ei gymryd oddi wrthym yn greulon, ond 'dan ni'n gwybod fod Scott wedi gwireddu ei freuddwydion drwy wasanaethu ei gatrawd a'i wlad," meddai datganiad ar ran ei rieni Michael ac Emma Hughes.

"All geiriau ddim mynegi ein colled fel teulu, a bydd bwlch enfawr yn ein bywydau heb Scott am byth."



HEFYD
Teyrngedau i filwr o Gymru
09 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific