Mae dros £1 miliwn wedi ei gasglu yng Nghymru
|
Mae pennaeth Plant Mewn Angen yng Nghymru, Marc Phillips, yn diolch i bobl Cymru am fod mor hael ar ôl i'r cyfanswm yma gyrraedd £1,034, 336 dros nos. Mae dros £18 miliwn wedi ei godi ledled y Deyrnas Unedig hyd yn hyn. Dywedodd Mr Phillips: "Dyma'r ail gyfanswm uchaf erioed yng Nghymru ac yn brawf o haelioni pobl Cymru sydd yn cydnabod bod heriau'r cyfnod economaidd anodd hwn yn gallu effeithio'n waeth nag erioed ar blant a phobl ifanc bregus gan greu galw cynyddol am gymorth. "Diolch o galon i bawb sydd wedi gwneud y canlyniad hwn yn bosibl". Fe wnaeth grŵp merched The Saturdays ymuno â Pudsey a miloedd o gefnogwyr rygbi i ddathlu noson Plant mewn Angen yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd côr meibion Only Men Aloud hefyd yno i ddiddanu'r dorf yn ystod hanner amser y gêm rygbi rhwng Cymru a Fiji. Difreintiedig Cafodd eu perfformiadau eu dangos fel rhan o sioe apêl fyw Plant Mewn Angen y BBC gydag amryw o ddiddanwyr yn gwneud eu rhan i godi arian ar gyfer plant a phobl ifanc difreintiedig ar hyd a lled y DU. Cafodd y sioe saith awr, a gyflwynwyd gan Syr Terry Wogan a Tess Daly, ei darlledu yn fyw o Ganolfan Ddarlledu'r BBC. Roedd cyfle hefyd i gael cipolwg ar raglen Nadolig Doctor Who, a gafodd ei gwneud yng Nghymru. Cafodd y cyngerdd hanner amser yn y Stadiwm ei gyflwyno gan Alex Jones o'r rhaglen The One Show, a'i darlledu i ystafelloedd byw ledled y DU fel rhan o'r sioe apêl. Cafodd y rhaglen ei darlledu ar BBC Un Cymru. Dyma oedd y 31ain tro i'r rhaglen gael ei darlledu. Mae Syr Terry Wogan wedi cyflwyno pob un o'r nosweithiau ar y teledu ers 1980 gyda Pudsey, mascot yr apêl, yn ymuno gyda'r gweithgareddau yn 1985. Er mwyn cyfrannu gallwch ffonio 0345 7 33 22 33 i gyfrannu, neu ewch i'r wefan bbc.co.uk/cymru/pudsey
|