British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2010, 18:00 GMT
'Angen i S4C fod yn annibynnol'

Logo S4C

Mae Aelodau Cynulliad wedi galw am S4C sy'n "gwbwl annibynnol" yn ystod dadl drawsbleidiol am ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Roedd y ddadl yn gyfle i aelodau roi eu barn am fater sydd heb ei ddatganoli.

Ym mis Hydref dywedodd Llywodraeth San Steffan eu bod am i'r BBC ariannu S4C bron yn llwyr.

Ar hyn o bryd mae'r sianel yn derbyn tua £100 miliwn oddi wrth yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae nifer o sefydliadau a gwleidyddion eisioes wedi mynegi pryder am annibyniaeth y sianel Gymraeg.

Bwlio

Yn ystod y ddadl ym Mae Caerdydd fe gyhuddodd Alun Davies AC Llafur ac un o gynuwch swyddogion S4C, yr adran o fwlio.

Roedd yr adran, meddai, wedi ymddwyn yn warthus drwy "geisio gorfodi S4C i gyflwyno toriadau anghyfreithlon".

Fe alwodd y cyn-Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, am "bartneriaeth deg a chyfartal gyda'r BBC. "

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, y dylid cael fformiwla i warantu ariannu S4C a dywedodd Paul Davies, AC Ceidwadol Preseli Penfro, y dylid datganoli cyfrifoldeb am y sianel.



HEFYD
S4C: Mudiad yn mynegi pryder
12 Tach 10 |  Newyddion
Protest dros ddyfodol S4C
06 Tach 10 |  Newyddion
S4C: arweinwyr yn galw am adolygiad
02 Tach 10 |  Newyddion
'BBC i ariannu S4C'
19 Hyd 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific