Y gyllideb wedi ei llunio o dan yr 'amgylchiadau ariannol mwyaf anodd ers datganoli'
|
Mae cyllideb ddrafft Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Ynddi mae'r llywodraeth yn tanlinellu ei haddewid i amddiffyn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a sgiliau. Ond fe fydd y gyllideb iechyd yn gostwng ychydig mewn termau real erbyn 2013-2014 i £6.1 biliwn a bydd y gyllideb addysg a sgiliau yn gostwng ychydig dros yr un cyfnod. Fe fydd 'na doriadau sylweddol i adrannau eraill, gan gynnwys economi, trafnidiaeth a'r amgylchedd. Mae'r
gyllideb ddrafft
yn addo "helpu'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau," rhoi cefnogaeth i blant a'r henoed a hybu'r adfywiad economaidd. Dywedodd y Gweinidog Busnes, Jane Hutt, fod y gyllideb wedi ei llunio o dan yr "amgylchiadau ariannol mwyaf anodd ers datganoli". 'Dewisiadau anodd' "Rydyn ni eisoes wedi dweud yn gyhoeddus ein bod yn erbyn y toriadau gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn y cyfnod allweddol hwn, hynny yw wrth gefnu ar gyni economaidd. "Ond wedi derbyn hynny, rydyn ni'n benderfynol o wneud y gorau i bobl Cymru ac i barhau i frwydro am y gefnogaeth iawn i'r rhai sydd fwya ei hangen. "Wrth i'r arian gael ei gwtogi - bydd ein cyllideb y flwyddyn nesa £860 miliwn yn llai, ac fe fydd £1.8 biliwn yn llai erbyn 2014-15 - rhaid gwneud dewisiadau anodd ac, yn amlwg, fe fydd rhaid tocio rhai gweithgareddau." 'Buddion i bawb'
 |
Rydyn ni'n benderfynol o wneud y gorau i bobl Cymru
Jane Hutt AC Gweinidog Busnes
|
Ychwanegodd: "Mae'r gyllideb ddrafft yn pwysleisio ein hymrwymiad i fuddion ar gael i bawb, ac yn rhoi'r arian i ni barhau â'r cynllun tocynnau bws am ddim, dim tâl am bresgripsiwn, brecwast am ddim mewn ysgolion a llaeth i ddisgyblion cynradd." Y tair adran fydd yn diodde waethaf oherwydd y gyllideb ddrafft yw: • Materion Gwledig - 9.7% o doriad mewn termau real; • Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai - 9.6%; • Treftadaeth - 9.4%. 'Annigonol' Yn ôl CBI Cymru, dyw Llywodraeth y Cynulliad ddim defnyddio'u harian i hybu twf economaidd. Dywedodd eu cyfarwyddwr, David Prosser: "Tra ein bod yn croesawu yr un buddsoddiad cyfalaf o £47 miliwn, mae'n annigonol i gwrdd â'r her yr ydym yn ei hwynebu ac yn gwneud bron dim i roi rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd modern i Gymru. "Rhaid i Lywodraeth Y Cynullad ddechrau gweithio gyda'r sector breifat i ddatblygu ffyrdd dyfeisgar o ddefnyddio arian preifat i wella isadeiledd Cymru. "Yn y cyfamser, bydd y gyllideb hon yn golygu mwy o dyllau yn ein priffyrdd."
Roedd Ceidwadwyr Cymru yn fwy beirniadol. Dywedodd eu llefarydd ar gyllid, Nick Ramsay AC: "Mae'r gyllideb hon yn cynrychioli toriad o gannoedd o filiynau o bunnoedd i'r Gwasanaeth Iechyd dros y tair blynedd nesa. "Mae hynny'n gwbl annerbyniol ac yn peryglu gwasanaethau rheng flaen. "Eisoes eleni mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi diodde toriadau o £435 miliwn, ac mae cadarnhad nawr bod llawer mwy i ddod. "Mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod yn amddiffyn iechyd ond mae hyn yn rhagrithiol ..." Dywedodd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi cael setliad teg oddi wrth San Steffan, toriadau o lai na 2% y flwyddyn, lawer llai nag yr oedden nhw'n cynllunio amdanyn nhw. "Mae'n hen bryd i Lafur-Plaid gael eu barnu ar sail eu cynlluniau sy'n niweidiol i ddyfodol ein Gwasanaeth Iechyd." 'Treth cyngor' Ond dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Chris Franks AC, fod y Llywodraeth Glymblaid yn iawn wrth beidio â dilyn cynlluniau'r Torïaid, torri cyllidebau rhai adrannau o hyd at 25%. "Byddai'r Ceidwadwyr wedi hoffi gweld chwarter yr arian sy'n mynd i ysgolion, plant a'r henoed, yn cael ei dorri. "Byddai eu cynlluniau wedi golygu cynnydd anferth yn nhreth y cyngor a doedd hynny ddim yn rhywbeth y byddwn i, na Phlaid Cymru, wedi bod yn fodlon ei orfodi ar y cyhoedd yng Nghymru." Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams AC, wedi dweud y gallai'r gyllideb fod wedi gwneud mwy i leihau biwrocratiaeth. "Rydym am weld gwasanaethau iechyd yn cael eu hamddiffyn ond dyw hynny ddim yn golygu na allwn i wneud arbedion ym miwrocratiaeth y Gwasanaeth Iechyd. 'Yn dda i ddim' "Dyw hi'n dda i ddim amddiffyn y gyllideb iechyd pan mae yna dystiolaeth fod £1 biliwn o arian y gwasanaeth yn cael ei gam-wario. "Wrth i deuluoedd a busnesau orfod gwneud arbedion, mae'r cyhoedd yn disgwyl i'r llywodraeth wneud yr un peth. "Mae'n galonogol bod y gyllideb yn chwilio am yr arbedion gweinyddu a biwrocratiaeth y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw amdanyn nhw. "Ond mewn nifer o feysydd mae'r camau sy'n cael eu hargymell yn annigonol."
|