British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Tachwedd 2010, 17:42 GMT
Herio cynllun ynni fferm yn y llys

Y brodyr Paul a Gary Jones
Fe wnaeth y teulu y cais gwreiddiol ym mis Medi 2007

Mae'r Uchel Lys wedi penderfynu o blaid penderfyniad i roi caniatad cynllunio i godi canolfan sy'n defnyddio gwastraff lladd-dy ac anifeiliaid i gynhyrchu gwrtaith ag ynni gwyrdd.

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi apelio yn erbyn y penderfynaid ar gyfer safle ar fferm ger Talgarth ym Mhowys.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod eu bod yn siomedig gyda'r penderfyniad ond y byddant yn rhoi ystyriaeth fanwl i sylwadau'r llys wrth ysytired ceisiadau cynllunio yn y dyfodol.

Y brodyr Paul a Gary Jones sydd y tu ôl i'r syniad am y ganolfan.

Ymchwiliad cyhoeddus

Mae'r offer yn troi'r gwastraff o ladd-dy lleol yn nwy.

Mae'r gwastraff yn pydru ac yn cael ei ledaenu ar y caeau fel gwrtaith.

Fe wnaeth y teulu gyflwyno cais cynllunio i'r parc ym mis Medi 2007.

Rhoddwyd caniatâd yn 2008 ond cafodd ei dynnu'n ôl y llynedd.

Fe wnaeth y teulu apelio ac fe gafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal.

Wedi hynny dywedodd yr arolygwr bod modd i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Ond fe wnaeth yr awdurdod herio'r penderfyniad gan ddweud nad oedd penderfyniad yr arolygwr wedi "egluro'r ffordd y cafodd y polisi cynllunio ei gyflwyno".

Cyn yr achos llys, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod "gweinidogion Cymru wedi penderfynu amddiffyn y penderfyniad" ac y bydd yr achos llys yn mynd yn ei flaen.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific