Aled ap Dafydd
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Gall y cyhoeddiad gael effaith am flynyddoedd
|
Bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad yn gosod ei stamp ar wleidyddiaeth Cymru am y tair blynedd nesaf. Wedi rhybuddion am doriadau i wariant cyhoeddus cawn wybod ble y bydd y fwyell yn disgyn ddydd Mercher. Oherwydd adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref mae 'na gynnydd yn yr arian sydd ar gael i Lywodraeth y Cynulliad o ddydd i ddydd dros y tair blynedd nesaf, hynny yw ar gyfer cyflogau'r sector gyhoeddus. Ond bydd llawer llai o arian cyfalaf ar gyfer prosiectau fel adnewyddu ysbytai, ysgolion a ffyrdd. Ffyrnig Gan y bydd etholiad y cynulliad ym mis Mai, bydd partneriaid y glymblaid, Llafur a Phlaid Cymru, yn dweud wrth yr etholwyr beth yw eu blaenoriaethau tra bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig eu gweledigaeth yng nghanol hinsawdd economaidd anodd.
Dywed Carwyn Jones y bydd 'na flaenoriaethau
|
Ym maes iechyd y bydd y frwydr fwyaf ffyrnig. Mae'r Ceidwadwyr wedi ymrwymo i amddiffyn y gyllideb iechyd sy'n cyfri am 40% o holl wariant Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd. Gwarchod ysbytai, ysgolion a sgiliau yw addewid y Prif Weinidog Carwyn Jones. Canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na chlustnodi arian y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol wrth ddadlau bod gweithio'n fwy effeithlon yn arwain at lai o doriadau. Ymdopi Fe fydd rhaid i'r pleidiau i gyd ymdopi â'r toriad enfawr yn y gyllideb gyfalaf yn y blynyddoedd i ddod. Yn ôl y rhai sy'n gwybod beth yw manylion y gyllideb, dyma lle y bydd rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf. Gyda 40% yn llai o arian i'w wario dros y pedair blynedd nesaf bydd oedi cyn adeiladu ysgolion, ysbytai a ffyrdd newydd. Gan fod llawer o'r gyllideb gyfalaf yn cael ei gwario yn y sector breifat ar gontractwyr ac adeiladwyr gallai prinder arian gael effaith andwyol ar y farchnad lafur. Ymhen wythnos bydd awdurdodau lleol Cymru yn cael gwybod faint o arian fydd ganddyn nhw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa' ac fe fydd hynny yn ei dro yn effeithio ar lefelau treth cyngor. Mae un peth yn sicr. Fe fydd oblygiadau'r gyllideb ddrafft yn bellgyrhaeddol a'r sgil effeithiau'n para am fisoedd os nad blynyddoedd.
|