Fe wnaeth y ddau ddyweddio ym mis Hydref ar wyliau yn Kenya
|
Daeth cadarnhad y bydd y Tywysog William yn priodi'r flwyddyn nesaf. Mewn datganiad gan Clarence House ddydd Mawrth dywedodd Tywysog Cymru ei fod yn falch o gael cyhoeddi dyweddïad Tywysog William a Miss Catherine Middleton. Fe fydd y briodas yn cael ei chynnal yn y gwanwyn neu'r haf y flwyddyn nesaf a hynny yn Llundain. Fe wnaeth y ddau ddechrau canlyn wyth mlynedd yn ôl pan oedd y ddau yn astudio ym Mhrifysgol St Andrews. Roedden nhw'n rhannu tŷ yno. Ychwanegodd y datganiad y bydd mwy o fanylion am y briodas yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol. "Fe wnaeth y ddau ddyweddïo ym mis Hydref yn ystod gwyliau preifat yn Kenya," meddai'r datganiad. "Mae'r Tywysog William wedi hysbysu'r Frenhines ac aelodau agos eraill o'i deulu. "Cafodd hefyd ganiatâd tad Miss Middleton. "Wedi'r briodas fe fydd y cwpl yn parhau i fyw yng ngogledd Cymru wrth i Dywysog William barhau i weithio gyda'r Llu Awyr yn Y Fali." Aur I ddilyn traddodiad gallai modrwy briodas Miss Middleton gynnwys darn o Aur Cymru. Ers pan briododd y Fam Frenhines yn 1923 mae 'na aur o Gymru wedi ei ddefnyddio mewn modrwyau i'r priodferched ers hynny. O'r un darn o aur y cafodd modrwyau Y Frenhines, Y Dywysoges Margaret, Y Dywysoges Frenhinol a'r Dywysoges Diana eu gwneud. Daeth yr aur o gloddfa Clogau, Bontddu ger Dolgellau. Prin iawn yw'r hyn sydd ar ôl o'r darn gwreiddiol ond fe dderbyniodd y Frenhines fwy o aur yn rhodd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 1981. O'r aur hwnnw y cafodd modrwy Sarah Duges Efrog ei gwneud yn 1986 a modrwy Duges Cernyw. Negeseuon Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi llongyfarch y Tywysog William a Kate Middleton ar eu dyweddïad. "Rwy'n falch iawn i glywed eu bod yn bwriadu dechrau eu bywyd priodasol yng Ngogledd Cymru. "Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pobl Cymru yn dymuno'r gorau iddyn nhw am eu hapusrwydd yn y dyfodol." Dywedodd y Cynghorydd Selwyn Williams, Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn, ei fod hefyd yn llongyfarch y Tywysog a Kate Middleton. "Dyma newyddion gwych ac rydym wrth gwrs yn falch iawn drostynt, a'r ffaith eu bod wedi penderfynu ymgartrefu yma yng ngogledd Cymru. "Mae'n wych eu bod yn mwynhau prydferthwch, treftadaeth a diwylliant Ynys Môn a'u bod am fod yn rhan ohono. "Mae hefyd yn newyddion da i'r ynys yn nhermau codi proffil fel ardal wyliau, a gobeithio y byddwn yn denu mwy a mwy o ymwelwyr wrth iddynt hwythau sylweddoli cymaint sydd gan Ynys Môn i gynnig."
|