British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Tachwedd 2010, 11:16 GMT
Gwefan sipsiwn a theithwyr ifanc

Llun oddi ar y wefan
Mae'r wefan yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddweud eu dweud ar faterion o bwys

Mae elusen Achub y Plant wedi lansio gwefan newydd ar gyfer sipsiwn a theithwyr ifanc yng Nghymru.

Y nod yw rhoi cyfle iddyn nhw arddangos eu gwaith a lleisio eu barn ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Dyma'r wefan gyntaf o'i bath ym Mhrydain.

Bydd gwefan 'Travelling Ahead' yn cynnwys storïau gan aelodau ifanc o gymunedau sipsiwn.

Cafodd y safle ei chynllunio gan Achub y Plant yng Nghymru, ac mae'n rhan o brosiect ehangach gan yr elusen.

Mynegi barn

Mae'r wefan yn cael ei lansio yn swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Carl Sargeant.

Yn ôl sylwadau ar y safle, cafodd ei greu "i roi cyfle i'ch ffrindiau a phobl ifanc a gweithwyr eraill ar draws Cymru i weld pa brosiectau 'da chi wedi bod ynghlwm â nhw a beth 'da chi wedi bod yn ei wneud.

"Dyma'ch cyfle i roi eich barn a dweud eich dweud ar faterion sydd o bwys i chi, neu yr hoffech chi weld yn cael eu newid."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific