British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010, 16:51 GMT
Cymorth i yrwyr gan Y Groes Goch

Pont Britannia
Bu Pont Britannia ar gau yn llwyr am saith awr.

Bu dau dîm argyfwng o'r Groes Goch wrth law nos Iau i gynnig cefnogaeth i yrwyr oedd yn methu croesi'r Fenai rhwng Ynys Môn a Gwynedd.

Oherwydd gwyntoedd o fwy na 90 m.y.a., caewyd Pont Britannia yn gyfan gwbl, ac fe gaewyd Pont Y Borth i gerbydau uchel.

Roedd yr heddlu yn dargyfeirio lorïau i feysydd parcio yn Llandegai ac ar Ynys Môn.

Roedd staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch wrth law i gynnig bwyd cynnes a gwybodaeth i'r bobl oedd yn methu croesi.

'Straen'

Dywedodd un gwirfoddolwr, Dilwyn Roberts: "Roedd pobl o dan straen aruthrol oherwydd yr oedi.

"Fe wnaethon ni siarad gyda nifer o yrwyr lori oedd â llwythau oedd angen cael eu cludo o fewn amser penodedig. Roedd llawer o Ewrop ac yn poeni am gyrraedd adre at eu teuluoedd.

"Am fod Y Groes Goch yn adnabyddus yn rhyngwladol, roedd pobl yn dod atom ni gan wybod y gallen nhw ymddiried ynddon ni.

"Roedden ni'n medru cynnig cefnogaeth emosiynol i'r gyrwyr."

'Ardderchog'

Bu Pont Britannia ar gau yn llwyr am saith awr, ac fe gafodd tua 130 o gerbydau eu cadw mewn lle parcio yn Llandegai a 150 yn rhagor wedi eu cadw o fewn safle porthladd Caergybi.

Dywedodd Sarsiant Craig Jones o Heddlu'r Gogledd: "Fe wnaeth staff a gwirfoddolwyr Y Groes Goch waith ardderchog neithiwr.

"Fe wnaethon nhw gyfraniad sylweddol wrth gefnogi'r heddlu, yr awdurdodau lleol ac awdurdodau'r priffyrdd."

Yn ôl David Hallows, cydlynydd argyfwng Y Groes Goch yng ngogledd Cymru: "Aeth y tîm cyntaf yno o fewn chwarter awr i gael yr alwad gan Gyngor Gwynedd, ac roedd yr ail dîm yn hapus i gael eu deffro yng nghanol y nos.

"Mae'r proffesiynoldeb ac ymroddiad a ddangoswyd gan bawb yn glod mawr iddyn nhw ac i'r Groes Goch."

Aeth y ddau dîm adre am 4:00am fore Gwener, ond maen nhw yn aros wrth law i ddarparu cefnogaeth bellach ym mhorthladd Caergybi wrth i'r nifer o gerbydau sy'n cyrraedd Ynys Môn gynyddu.



HEFYD
Gwyntoedd yn creu trafferthion
12 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific