British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Tachwedd 2010, 08:11 GMT
'Mwy na 1,000 yn cystadlu'

Logo Gŵyl Cerdd Dant 2010
Dyluniwyd logo'r Ŵyl gan un o ddisgyblion Ysgol Tryfan, Bangor

Daeth dros 1,000 o bobl i gystadlu yng Ngŵyl Cerdd Dant Glannau Menai 2010 ym Mangor ddydd Sadwrn.

Yn ôl y trefnydd, roedd yr ymateb eleni yn well nag ers sawl blwyddyn.

Dywedodd Dewi Jones: "Mae'r nifer sy'n cystadlu yn y partïon a'r corau yn llawer uwch nag y buon nhw ers blynyddoedd lawer."

Ychwanegodd fod yr ymateb i'r cystadlaethau ieuenctid - oed uwchradd - hefyd yn "anhygoel a bod hyn yn argoeli'n dda i'r dyfodol".

Cafodd yr ŵyl eleni ei chynnal yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, gyda rhai rhagbrofion yn Ysgol Friars.

Diwedd cyfnod

Ond roedd yn ddiwedd cyfnod ieleni wrth i un o'r arweinyddion mwya' cyfarwydd roi'r gorau iddi.

Ar ôl dros 30 mlynedd o arwain o'r llwyfan, fe wnaeth y Parch. R Alun Evans hynny am y tro ola' eleni.

Y mae i'r lle hwn, a'r ddinas hon, eu hatgofion melys. A wna i ddim anghofio mai yma yr arweinia i'r Ŵyl am y tro ola'
Y Parch. R Alun Evans

Roedd yn teimlo mai Bangor oedd y lle addas iddo roi'r gorau iddi.

"Fe ges i'r fraint yn 1990 o fod yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl ym Mangor. Flynyddoedd lawer ynghynt roeddwn i, fel myfyriwr yn y Coleg ar y Bryn, wedi troedio tipyn ar lwyfan y PJ.

"Y mae i'r lle hwn, a'r ddinas hon, eu hatgofion melys. A wna i ddim anghofio mai yma yr arweinia i'r ŵyl am y tro ola'."

Llywydd y dydd eleni oedd y Parch. John Gwilym Jones, fu'n weinidog ym Mangor am 40 mlynedd cyn ymddeol i Sir Gaerfyrddin.

Cynhaliwyd yr Ŵyl ym Mangor ddiwetha' yn 2000 ond eleni roedd hi'n cynnwys ardal ehangach - ac o'r herwydd yn cael ei galw yn Ŵyl Cerdd Dant Glannau Menai.



HEFYD
Casnewydd yn croesawu cerdd dantwyr
14 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific