British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010, 08:30 GMT
Gwyntoedd yn creu trafferthion

HSS Stena Explorer
Mae cwmni Stena wedi gohirio eu gwasanaethau o Gaergybi.

Mae gwyntoedd cryfion o hyd at 90 milltir yr awr wedi achosi trafferthion dros nos.

Achoswyd difrod i adeiladau ac amharwyd ar gyflenwadau trydan.

Nos Iau cafodd Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn, a Phont Cleddau yn Sir Benfro eu cau, ond maen nhw bellach wedi ailagor.

Cafodd awyren ar daith o Belfast i Gaerdydd ei hailgyfeirio i faes awyr Birmingham.

Yn Sir Benfro cafodd diffoddwyr eu galw ar ôl i do garej gwympo yn Aberdaugleddau.

Amharwyd ar gyflenwad trydan i dai yn ardal y Trallwng yn y canolbarth.

Ar hyn o bryd mae teithiau fferi rhwng Cymru ag Iwerddon wedi eu canslo.

Dywed Swyddfa'r Dywydd fod gwyntoedd o 91 milltir yr awr wedi eu cofnodi yng Nghapel Curig, Gwynedd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific