British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010, 12:52 GMT
Pamffledyn 'camarweiniol' ffordd osgoi

Bontnewydd
Pwrpas y ffordd osgoi yw atal tagfeydd yn Bontnewydd.

Mae 6,000 o bamffledi gafodd eu gyrru i gartrefi yn ardal Bontnewydd yng Ngwynedd am lwybr ffordd osgoi newydd yn cynnwys gwybodaeth gamarweiniol, yn ôl dyn busnes lleol.

Dywed perchennog atyniad twristiaid Parc Coed Sipsi, John Evans, fod y pamffledyn yn dweud y bydd y ffordd osgoi yn mynd "yn agos" i'r parc.

Ond pan ymchwiliodd yn fwy manwl, gwelodd y bydd y ffordd yn rhedeg drwy ganol yr ardal natur.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Y Cynulliad eu bod am wneud pob ymdrech i gywiro unrhyw wallau.

Map manwl

Dywedodd Mr Evans: "Roedd hi'n ergyd gweld y byddai'r ffordd yn mynd drwy'r ardal natur, oherwydd holl bwrpas y parc yw annog plant i ymhél â byd natur."

Hyd yn oed yn y sesiynau ymgynghori gyda'r cyhoedd, meddai, doedd hi ddim yn amlwg os fyddai'r ffordd yn mynd drwy ei dir, a dim ond pan gyhoeddwyd map manwl mawr o'r llwybr y daeth hi'n amlwg beth oedd y gwir.

"Mae'n gamarweiniol oherwydd mae pobl yn credu nad yw llwybr y ffordd yn effeithio ar unrhyw un wrth edrych ar y cynllun," meddai.

Ychwanegodd Mr Evans ei fod yn sylweddoli y byddai rhywun yn diodde pa bynnag lwybr fyddai'n cael ei ddewis, ond wrth gyhoeddi pamffledi aneglur roedd yntau yn colli ei "hawl ddemocrataidd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Y Cynulliad fod y sesiynau ymgynghori yn bwysig er mwyn sicrhau fod trigolion lleol yn teimlo'n rhan o gynllun fydd yn cael effaith arnyn nhw.

"Os oes gwallau yn y deunydd yr ydym wedi cyhoeddi," meddai, "yna fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i'w cywiro er mwyn rhoi'r wybodaeth lawn i'r cyhoedd ar hyd y broses."



HEFYD
Barn am gynlluniau ffordd osgoi
09 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific