British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Tachwedd 2010, 06:37 GMT
Seremoniau i gofio Dydd y Cadoediad

Cafodd seremon´au eu cynnal ledled Cymru am 11am

Mae seremonïau wedi eu cynnal ddydd Iau i gofio am y milwyr a fu farw yn y gwahanol ryfeloedd o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r frwydr bresennol yn Afghanistan.

Yng Nghaerdydd, fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, arwain dwy funud o dawelwch am 11am gydag aelodau o'r Lleng Brydeinig yn bresennol yn y Senedd.

Cafodd seremonïau tebyg eu cynnal ledled Cymru gan gynnwys rhai yng Nghasnewydd, Pontypŵl a'r Barri.

Wrecsam
Yn Wrecsam cafodd seiren o'r Ail Ryfel Byd ei defnyddio fel rhan o'r seremoni

Yn Wrecsam cafodd seiren o'r Ail Ryfel Byd ei defnyddio i nodi Diwrnod y Cadoediad.

Coffa

Mae'r achlysur eleni yn nodi 70 mlynedd ers y frwydr fawr rhwng y Llu Awyr a'r Luftwaffe, The Battle of Britain.

Am 11am cafwyd dwy funud o dawelwch i nodi'r adeg pan ddaeth cadoediad i rym a rhoi diwedd ar y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.

Cafodd bron 900,000 o aelodau lluoedd arfog Prydain eu lladd rhwng 1914 a 1918.

Dywedodd Arglwydd Elis-Thomas: "Mae'r cynulliad cenedlaethol mewn partneriaeth gyda'r Lleng Brydeinig yn croesawu'r cyfle hwn i nodi'r achlysur yn y Senedd.

"Mae croeso i'r cyhoedd ymuno gyda ni yn y cyfnod o dawelwch."

Yn Abertawe roedd yna wasanaeth coffa yn cynnwys cerddoriaeth yng nghanol y ddinas.

Roedd lloeren yn cysylltu'r digwyddiad gydag achlysur tebyg yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain.



HEFYD
Cymru'n cofio diwedd y rhyfel
08 Tach 09 |  Newyddion
URC yn 'ymddiheuro'n ddiffuant'
11 Tach 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific