British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2010, 07:19 GMT
Strategaeth i atal hunanladdiadau

Merch ddigalon
Yn ôl y Samariaid, mae'r di-waith ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain

Gostwng nifer y bobl yng Nghymru sy'n lladd eu hunain yw'r nod wrth i Samariaid Cymru gyhoeddi eu strategaeth bum mlynedd.

Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, sy'n lansio'r strategaeth.

Mae disgwyl i nifer y di-waith yng Nghymru gynyddu yn ystod y misoedd nesa', ac mae'r Samariaid yn pryderu am hynny.

Erbyn 2015, mae'r elusen yn rhagweld y bydd 40,000 yn ychwanegol o bobl yn colli eu swyddi.

Diweithdra

Yn ôl y mudiad, mae'r di-waith ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad o'i gymharu ag unigolion sy'n gweithio.

Fe all poeni am ddiweithdra hefyd gael effaith ar iechyd meddwl - a thrwy hynny gynyddu'r perygl o hunanladdiad.

Wrth gyflwyno'r strategaeth newydd, mae'r Samariaid yn ymrwymo i ddatblygu eu gwaith ar draws Cymru, ac i godi ymwybyddiaeth o'u gwasanaeth 24-awr ymhlith pobl o gefndiroedd difreintiedig, sy'n fwy tebygol o ladd eu hunain.



HEFYD
Hunanladdiad: Annog pobl i siarad
02 Tach 09 |  Newyddion
Hunanladdiad: 'Her newydd'
10 Medi 09 |  Newyddion
Hunanladdiad: Mwy o alwadau
23 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific