British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2010, 20:46 GMT
Protest yn erbyn toriadau addysg uwch

Gwrthdaro yn Llundain ar ôl i ddegau o filoedd o fyfyrwyr gynnal gorymdaith. Adroddiad Arwyn Jones

Bu gwrthdaro rhwng protestwyr a'r heddlu yng nghanol Llundain wrth i fyfyrwyr brotestio yn erbyn cynlluniau i godi ffioedd uwch yn Lloegr.

Yn gynharach roedd miloedd o fyfyrwyr, gyda channoedd o fyfyrwyr o Gymru yn eu plith, wedi cymryd rhan mewn gorymdaith oedd hefyd yn gwrthwynebu torri ar gyllidebau addysg uwch.

Yn dilyn yr orymdaith fe lwyddodd rhai o'r protestwyr i dorri mewn i bencadlys y Ceidwadwyr yng nghanol Llundain.

Rhoddwyd nifer o blacardiau ar dân.

Cafodd o leaif 30 o bobl eu harestio.

Cafodd y trais ei gondemnio gan arweinwyr y myfyrwyr.

Maen nhw'n dweud fod hyd at 50,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr orymdaith i wrthwynebu polisiau'r llywodraeth.

Yn ôl undebau myfyrwyr yr NUS a'r UCU mae addysg a sgiliau yn hanfodol i sicrhau adfywiad yr economi.

Myfyrwyr o Gymru

Darlith prifysgol
Mae myfyrwyr yn anhapus gyda thoriadau arfaethedig i gyllideb addysg uwch

Credir fod tua 400 o fyfyrwyr wedi teithio i Lundain o Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Oliver Birrell: "Bydd y myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â miloedd o fyfyrwyr o ar draws y Deyrnas Unedig, yn Llundain, i anfon neges glir i'r llywodraeth glymblaid fod y toriadau a'r newidiadau arfaethedig i gyllideb addysg uwch yn anghywir.

"Bydd yn niweidio ein system addysg ni, yn atal pobl ifanc o gefndiroedd incwm isel, ac yn golygu fod gan raddedigion ddyledion enfawr."

Ychwanegodd mai dyma'r ymateb cynta' gan fyfyrwyr Caerdydd i'r toriadau arfaethedig, ond y bydd mwy o weithredu i ddod dros y misoedd nesa'.

£110 o filiynau

Yn ôl Gweinidog addysg Cymru, fe allai cynlluniau i godi ffioedd dysgu o hyd at £9,000 yn Lloegr olygu cost o £110 o filiynau i Lywodraeth y Cynulliad.

Roedd Leighton Andrews yn siarad ddechrau'r mis ar ôl i David Willetts, gweinidog prifysgolion San Steffan, ddweud y byddai'r newidiadau yn dod i rym yn 2012.

Yng Nghymru a Lloegr mae myfyrwyr yn talu ffioedd dysgu o £3,290 y flwyddyn ar hyn o bryd.



HEFYD
Ffioedd: Cost ychwanegol i Gymru
04 Tach 10 |  Newyddion
Anfantais i brifysgolion Cymru?
12 Hyd 10 |  Newyddion
Prifysgolion i wynebu toriadau
24 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific