British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 8 Tachwedd 2010, 20:54 GMT
Clegg i gwrdd theulu Jonathan Hiles

Jonathan Hiles
Bu farw Jonathan Hiles ar ynys Zakynthos yn 2007.

Bydd Dirprwy Brif Weinidog San Steffan, Nick Clegg, yn cwrdd gyda theulu dyn ifanc o Gaerdydd a fu farw yng ngwlad Groeg yn 2007.

Daw'r cyfarfod wedi i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol gael ei feirniadu gan dad Jonathan Hiles am gwrdd gyda teulu'r dyn sydd wedi ei gyhuddio o ddynladdiad Jonathan.

Dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, y bydd Mr Clegg yn cwrdd â Denzil Hiles yn fuan.

Mae Andrew Symeou, 22 oed o Middlesex, ar fechniaeth tra'n aros i sefyll ei brawd am ddynladdiad - rhywbeth y mae'n ei wadu.

Fe wnaeth teulu Mr Symeou gwrdd gyda Mr Clegg yr wythnos ddiwethaf.

Esdraddodi

Andrew Symeou
Cafodd Andrew Symeou ei esdraddodi yn 2009.

Maen nhw am weld Llywodraeth Y DU yn gofyn i'r awdurdodau yn Groeg os caiff Mr Symeou ddychwelyd i Brydain dros y Nadolig.

Roedd Mr Hiles, oedd yn aelod o dîm hoci sglefrolio Prydain, ar wyliau ar ynys Zakynthos - neu Zante - yn 2007 pan fu farw.

Fe ddisgynnodd oddiar lwyfan dawnsio yn anymwybodol ar ôl cael ei daro yn galed yn ei wyneb yn ol honiadau.

Dioddefodd y dyn 18 oed niwed difrifol i'w ymennydd, a bu farw deuddydd yn ddiweddarach.

Cafodd Mr Symeou, sy'n gwadu bod yn y clwb nos ar y pryd, ei esdraddodi i Groeg ym mis Gorffennaf 2009.



HEFYD
Protest am fyfyriwr yng Ngroeg
11 Ion 10 |  Newyddion
Myfyriwr yn cael ei estraddodi
23 Gorff 09 |  Newyddion
Dynladdiad: Llys yng Ngroeg
01 Mai 09 |  Newyddion
Lladd Cymro: Achos estraddodi
30 Medi 08 |  Newyddion
Marwolaeth Cymro: Arestio dyn
27 Meh 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific