British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2010, 07:00 GMT
Teyrngedau i filwr o Gymru

Scott Hughes
Mae'n debyg fod Scott Hughes wedi cael ei daro gan gwch modur tra'n nofio

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i filwr o Gymru, gafodd ei ladd mewn damwain yng Nghyprus.

Roedd Scott Hughes, 20 oed o'r Felinheli yng Ngwynedd, ar ei ffordd adre' o Afghanistan pan ddigwyddodd y ddamwain ar ddydd Gwener, Tachwedd 5.

Mae gan luoedd arfog Prydain wersylloedd parhaol i filwyr ar yr ynys.

Roedd y milwr yn aelod o Sgwadron 1 Catrawd yr Awyrlu Brenhinol, ac wedi ei leoli yn RAF Honington ger Bury St Edmunds.

Mae'n debyg ei fod yn nofio yn y môr ger Akrotiri pan gafodd ei daro gan gwch modur.

Bu farw o'i anafiadau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Cyrpys
Digwyddodd y ddamwain yn ardal Akrotiri

Ymchwiliad

Mae heddlu'r fyddin yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd Is-gyrnol James Hill, sy'n llefarydd ar ran y lluoedd yn Afghanistan:

"Gyda thristwch rhaid i mi adrodd am farwolaeth aelod o'r lluoedd fore Sul. Roedd ar ei ffordd adre o Afghanistan pan fu mewn damwain yng Nghyprus.

"Er gwaeth ymdrechion staff meddygol ar y safle ac yn ddiweddarach, methodd yr awyrennwr i oroesi'r anafiadau a gafodd yn y ddamwain.

'Colled enfawr'

"Mae hyn yn arbennig o drist gan ei fod wedi marw ar ei ffordd adre ar ôl cyfnod o ddyletswydd lle bu'n ymroddgar wrth amddiffyn ei gydweithwyr a thrigolion Afghanistan yn Camp Bastion.

"Rydym yn gweddïo dros ei deulu ac yn meddwl amdanynt. Bydd colled enfawr ar ei ôl."

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Daily Post dywedodd ei rieni Michael ac Emma Hughes: "Mae ein mab hyfryd a dewr, oedd yn berson llawn hwyl, wedi ei gymryd oddi wrthym yn greulon, ond 'da ni'n gwybod fod Scott wedi gwireddu ei freuddwydion trwy wasanaethu ei gatrawd a'i wlad.

"All geiriau ddim mynegi ein colled fel teulu, a bydd bwlch enfawr yn ein bywydau heb Scott am byth."

Dywedodd Arweinydd y Sgwadron, David Crook, fod Mr Hughes wedi peryglu ei fywyd dros y chwe mis diwetha' er mwyn "amddiffyn ac achub eraill".

Ychwanegodd: "Mae ei farwolaeth yn drasiedi, all geiriau ddim mynegi ein teimladau o golled a sioc."

Cymuned glos

Yn ôl y Corporal Christopher Sheehan, fu'n cydweithio gyda Mr Hughes yn Afghanistan: "Trwy gydol ein hamser yno, roedd Scott yn llawn hwyl a thriciau, ac yn gwneud bywyd ychydig yn haws i bawb."

Dywedodd cynghorydd o'r Felinheli, Sian Gwenllian, y byddai'r gymuned glos yn dod at ei gilydd i helpu'r teulu.

"Roeddwn i'n ei 'nabod yn dda achos fe aeth i'r ysgol gyda fy meibion," meddai.

"Mae ei fam yn gweithio yn yr ysgol gynradd leol, felly mae pawb yn 'nabod Emma, ac mae ei dad Michael hefyd yn adnabyddus iawn ac yn berchen ar fusnes atgyweirio tai," ychwanegodd.

Yn dilyn y digwyddiad ddydd Gwener, cafodd dyn ei holi gan yr heddlu yng Nghyprus, ond cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific