Cell canser y prostad
|
Gallai llai o ddynion farw o ganser y prostad drwy gael triniaeth radiotherapi yn ogystal â hormonau yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd. Mewn profion lleol ar 1,200 o ddynion oedd yn diodde o ganser, arweiniodd radiotherapi at 43% yn llai o farwolaethau dros gyfnod o saith mlynedd. Cafodd bob un o'r dynion driniaeth hormonau, sy'n defnyddio cyffuriau i atal testosterone rhag megino'r canser. Ond fe gafodd hanner y dynion radiotherapi yn ogystal. Mae'r canlyniadau cynnar yn dangos fod 79% o'r dynion gafodd driniaeth hormonau yn unig yn dal yn fyw saith mlynedd yn ddiweddarach, ond roedd 90% o'r rhai gafodd radiotherapi hefyd wedi goroesi. 'Mwy i gael cynnig' Mae triniaeth hormonau yn gweithio'n dda, ond mae rhai dynion yn peidio ymateb i'r driniaeth dros gyfnod hir. Arweinydd yr ymchwil yw'r Athro Malcolm Mason o Brifysgol Caerdydd. Dywedodd: "Mae'r canlyniadau cyffrous yma yn dangos yn glir fod radiotherapi yn cynyddu'r gobaith i ddynion sy'n diodde o ganser y prostad. "Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfri fod 40% o ddynion yn derbyn radiotherapi yn y DU, ac rydym yn gobeithio - oherwydd y canlyniadau yma - y bydd mwy nawr yn cael cynnig y dewis yma." Pwysig Roedd y dynion a dderbyniodd radiotherapi yn cael triniaeth am bum niwrnod yr wythnos dros gyfnod o chwech neu saith wythnos fel cleifion allanol. Nid yw radiotherapi yn ddewis hawdd, gan y gall gael sgîl-effeithiau tymor byr a thymor hir. Ond dywedodd Kate Law, cyfarwyddwr ymchwil clinigol gyda Cancer Research UK: "Mae'r profion yma yn cynnig gobaith o'r newydd i filoedd o ddynion sydd â chanser y prostad, gan atal cannoedd o farwolaethau bob blwyddyn. "Weithiau mae radiotherapi yn cael ei anwybyddu fel dewis o driniaeth, ond mae'r profion yma yn dangos pa mor bwysig y gall fod."
|