British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 7 Tachwedd 2010, 11:11 GMT
Cofio canmlwyddiant Tonypandy

Terfysg Tonypandy
Mae Terfysg Tonypandy yn un o'r penodau pwysicaf yn hanes diwydiannol Cymru.

Bydd tref Tonypandy yn Rhondda Cynon Taf yn cofio'r diwrnod pwysicaf yn hanes y dref ddydd Sul, a diwrnod sy'n rhan bwysig o hanes cymunedau glofaol yn ogystal.

Ar Dachwedd 7 ac 8 1910, aeth glowyr oedd ar streic o bwll ar gyrch yng nghanol y dref yn difrodi siopau ac eiddo perchnogion y pwll.

Gyrrodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Winston Churchill, y milwyr i'r dre i gefnogi'r heddlu i geisio tawelu'r terfysg - rhywbeth a bardduodd ei enw ymysg pobl yr ardal.

Anghydfod

Ar Fedi 1, 1910, cafodd 950 o lowyr eu cloi allan o Bwll Glo Elái ym Mhengraig gerllaw o ganlyniad i anghydfod ynglŷn â faint o lo yr oedd disgwyl iddyn nhw fwyno o'r pwll.

Cafodd hyn ei wneud er mai dim ond 70 o'r gweithwyr oedd yn rhan o'r anghydfod.

Erbyn dechrau Tachwedd, roedd yr anghydfod wedi lledu i bob un o'r 12,000 o weithiwyr cwmni Cambrian Combine, ac ar Dachwedd 2, roedd Ffederasiwn Glowyr De Cymru wedi gwrthod codiad cyflog a gynigiwyd gan y cwmni.

Eisoes roedd 11,000 o lowyr yng Nghwm Cynon ar streic, ac fe ddechreuodd Heddlu Morgannwg baratoi am drafferth wrth i gwmni Cambrian Combine geisio symud gweithwyr oedd yn barod i dorri'r streic i mewn i'r un pwll oedd yn dal i weithio yn Llwynypia.

Gochmynnodd Churchill y dylai 200 o swyddogion Heddlu Llundain fynd i gynorthwyo, gyda chriw o Ffiwsilwyr Sir Gaerhirfryn yn aros yng Nghaerdydd i gynnig cefnogaeth pe bai angen.

Cofio canrif

Sophie Evans
Bydd y gantores Sophie Evans yn dychwelyd i'w chartre yn Nhonypandy ar gyfer y digwyddiad.

Dechreuodd y terfysg ar Dachwedd 7, gyda glowyr a heddlu yn ymladd ar y strydoedd, ac erbyn yr ail noson fe aeth y milwyr i mewn.

Er mai'r ddwy noson gyntaf oedd y gwaetha, daeth y trafferthion yn yr ardal ddim i ben tan y flwyddyn ganlynol, ac mae'r bennod gyfan yn cael ei chofio fel un o'r pwysicaf yn hanes diwydiannol Cymru.

Ganrif yn ddiweddarach, bydd dau ddiwrnod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i gofio am y terfysg.

Penllanw'r cyfan fydd cyngerdd arbennig fydd cynnwys perfformiad gan y gantores o Donypandy, Sophie Evans.

Fe ddaeth i amlygrwydd cenedlaethol wrth gystadlu ar gyfer deledu'r BBC 'Over The Rainbow'.



HEFYD
Cofio Terfysg Tonypandy
22 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific