British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2010, 08:25 GMT
Prifysgol yn atal perthynas gyda choleg ym Malaysia

Graduates (generic)
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gymwysterau pennaeth y coleg ym Malaysia

Mae Prifysgol Cymru wedi atal ei pherthynas gyda choleg busnes ym Malaysia wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Bydd rhaglen Week in Week Out BBC Cymru yn datgelu ddydd Mawrth fod seren bop o Malaysia gyda doethuriaeth ffug wedi bod yn rhedeg coleg oedd yn cynnig cyrsiau gradd Prifysgol Cymru.

Yn ôl y rhaglen roedd Fazley Yaakob, sy'n gyfrfiol am Fazley International College (FIC) ym Malaysia, yn honni fod ganddo radd ymchwil a doethuriaeth.

Roedd y cymwysterau wedi eu rhoi gan brifysgol ffug.

Dywed Prifysgol Cymru iddi benderfynu atal ei pherthynas gyda FIC oherwydd cwestiwn yn ymwneud â chymwysterau academaidd personol pennaeth y sefydliad.

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Marc Clement: "Nid yw'r Pennaeth ei hun yn dysgu'r cwrs, ac nid wyf am ragfarnu'r achos, ond rwyf i wedi gwneud y penderfyniad hwn er mwyn sicrhau a gwarchod enw da Prifysgol Cymru."

Y mae'r Fazley International College (FIC) yn un o dri sefydliad addysgiadol y mae Prifysgol Cymru yn cydweithio â nhw ym Malaysia.

Arwyddodd y Brifysgol gytundeb gyda FIC yn 2007 ac fe gafodd y myfyrwyr cyntaf eu derbyn ar gyrsiau dilysedig y flwyddyn ganlynol, ar ôl derbyn cymeradwyaeth dros dro gan Asiantaeth Cymwysterau Malaysia.

Mae Prifysgol Cymru bellach wedi penderfynu peidio â derbyn unrhyw fyfyrwyr newydd i'w chyrsiau BA (Anrh) Gweinyddiaeth Fusnes ac MBA yn y coleg hyd nes y bydd ymchwiliad wedi'i gynnal i gymwysterau'r pennaeth.

Serch hynny, ychwanegodd y Brifysgol na fydd hyn yn effeithio ar y 35 myfyriwr sydd wedi'i cofrestru ar gyrsiau dilysedig y Brifysgol.

Bydd rhaglen BBC Cymru Week In Week Out ar y pwnc yn cael ei darlledu ar Ddydd Mawrth, am 10.35pm, ar BBC 1 Wales.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific