British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Tachwedd 2010, 19:36 GMT
Agor estyniad i garchar

Parc Prison
Carchar Y Parc yw unig garchar preifat Cymru

Bydd estyniad newydd yn caniatáu i fwy o garcharorion o Gymru dreulio'u dedfrydau yng Nghymru, medd yr Ysgrifennydd Gwladol.

Cheryl Gillan AS agorodd yr estyniad i Garchar Y Parc, Penybont-ar-Ogwr, fydd yn ychwanegu 320 o leoedd, gyda hynny'n cynyddu i 470 erbyn canol 2011.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru: "Mae hwn yn gyfraniad sylweddol tuag at ateb y prinder lleoedd mewn carchardai yn ne Cymru."

Ychwanegodd y byddai'r estyniad yn gwneud Carchar Y Parc yn un o'r carchardai mwyaf yn y DU.

'Cadw cysylltiad'

Mae'r datblygiad yn rhoi canolfan feddygol, canolfan hyfforddi staff ac adnoddau arlwyo newydd i unig garchar preifat Cymru, yn ogystal ag ehangu'r maes parcio i staff ac ymwelwyr.

Ychwanegodd Mrs Gillan: "Mae'n bwysig fod troseddwyr o Gymru, pan yn bosib, yn treulio'u dedfrydau yng Nghymru, ac mae'r estyniad yma yn ei gwneud hi'n bosibl i hynny ddigwydd.

"Mae cadw cysylltiad gyda'u teuluoedd, a chyswllt gyda'u cymunedau, yn chwarae rôl bwysig wrth geisio ailsefydlu troseddwyr.

"Mae gan Garchar Y Parc record falch gyda chynlluniau dyfeisgar y mae wedi eu datblygu i sicrhau perthynas well gyda theuluoedd troseddwyr a'r gymuned leol."



HEFYD
Mwy o garcharorion yn cwyno
27 Awst 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific