Mae 'na edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod â'r dref
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio apêl i chwilio am unigolion i wirfoddoli fel stiwardiaid yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011. Y flwyddyn nesaf fe fydd yr Eisteddfod yn 150 oed ar ei ffurf bresennol ac yn ystod y 12 mis nesaf fe fydd 'na ddathliadau lleol a chenedlaethol, gwaith codi arian a pharatoi at yr wythnos. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro ar dir Fferm Bers Isaf oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, o 30 Gorffennaf i 6 Awst. Does dim dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a chynhelir hyfforddiant yn ystod Gorffennaf 2011. 'Dibynnol iawn' Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards: "Yn flynyddol rydym yn chwilio am bobl o bob oed i fod yn rhan o'r tîm yn ystod wythnos yr Eisteddfod. "Rydym yn ddibynnol iawn ar y rheini sy'n gwirfoddoli i'n helpu bob blwyddyn ac yn ddiolchgar iddyn nhw am eu cefnogaeth a'u cymorth. "Yn aml, ein stiwardiaid yw cyswllt cyntaf yr Eisteddfod gyda'n hymwelwyr. "Ein bwriad yw sicrhau bod gennym wirfoddolwyr o wahanol oedrannau a chefndiroedd sy'n cefnogi'r Eisteddfod ac yn awyddus i fod yn rhan o'i llwyddiant. "Mae digonedd o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar hyd a lled y Maes yn ystod yr wythnos, ac rydym yn awyddus i gael tîm brwdfrydig a chyfeillgar o stiwardiaid a fydd wrth law i roi cymorth i'n hymwelwyr mewn nifer fawr o sefyllfaoedd." Gellir llenwi ffurflen gofrestru ar-lein, ei lawr lwytho o'r wefan - www.eisteddfod.org.uk - neu drwy facebook - www.facebook.com/eisteddfod. Neu, gallwch ffonio'r swyddfa ar 0845 4090 400 am ragor o wybodaeth.
|